Gwaith Mynyddog Cyfrol 1/Y Moch yn yr Haidd

Oddi ar Wicidestun
Gwen O Goed Y Ddôl Gwaith Mynyddog Cyfrol 1
Caniadau
gan Richard Davies (Mynyddog)

Caniadau
I Mary

Y MOCH YN YR HAIDD

UN diwrnod mi welais amaethwr
Yn rhedeg a'i het yn ei law,
A dangos wnai 'i holl ysgogiadau
Fod arno ryw ddychryn a braw;
Mewn gormod o gyffro i siarad 'roedd e',
A hawdd ydoedd gwybod fod rhywbeth o le;
O'r diwedd fe grynodd y bryniau o'r braidd,
Pan waeddodd y ffarmwr, —"Mae'r moch yn yr haidd."

Mae treth y tylodion yn uchel
Ar bawb sy'n ei thalu trwy'r plwy',
Ond nid yw tylodion yr ardal
Ond prin yn cael ceiniog neu ddwy;
Mae amryw swyddogion yn pesgi ar hon,
A nifer o glercod yn sugno ei bron,
Uwch arian y tlodion mae pob dyn a faidd
Yn debyg ryfeddol i fochyn mewn haidd.

Mae byrddau corfforaeth y trefydd
Yn byw, medda nhw, yn lled fras,
'Dyw'r byrddau hyn byth, meddai pobol,
Heb rywbeth a thipyn o flas;
Mae'r trethi gordrymion a godir trwy'r lle,
Yn mynd, meddai'r Bwrdd, at welliantau y dre,
Ond wedyn, pan basia'r boneddwyr, o'r braidd
Na waedda y plantos,—"Mae'r moch yn yr haidd."

Bu farw hen gybydd ryw ddiwrnod,
Gan adael ei gyfoeth a'i nyth,

A'r cyfan a gasglodd trwy'i fywyd,
I ofal ei nai gyda'i nith;
Fe welwyd arwyddion cyn hir, fel pe bae,
Y gwyddai y nith, ac y gwyddai y nai,
Pa sut yr oedd chwalu yr arian o'r gwraidd,
A dangos i'r byd fod y moch yn yr haidd.

Fe syrthiodd rhyw lencyn di-arian
Mewn cariad â geneth a thir,
A thyngai mai nid er mwyn tyddyn
Y carai yr eneth mor bur;
Priododd y ddau yn llawn cariad a serch,
A'r llanc aeth i aros i dyddyn y ferch,
Ond gwelwyd fod twll yn ei boced, o'r braidd,
A'i fod, 'rol priodi, fel mochyn mewn haidd.

Fe syrthiodd masnachydd cyfoethog
Mewn cariad â geneth heb ddim,
A gwnaed y trefniadau priodi
Cydrhyngddynt yn hynod o chwim;
Yr anwyl a minnau, fel chwyddodd y chwaer
Pan aeth hi yn feistres ar eiddo yr aer,
A'r gŵr aeth i ganu cyn meddwl o'r braidd,
Ar dôn bur alarus, —" Mae'r hwch yn yr haidd."
Rhag. 16, 1870.