Gwaith Mynyddog Cyfrol 1/Gwylia Dy Hun

Oddi ar Wicidestun
Chwareu Teg I'r Merched Gwaith Mynyddog Cyfrol 1
Caniadau
gan Richard Davies (Mynyddog)

Caniadau
Nos a Dydd Yn Dangos Duw

GWYLIA DY HUN

BETH bynnag fo'r cwmni, beth bynnag fo'r ddawn,
Beth bynnag a fo'r brofedigaeth,
P'run bynnag fo'r llogell yn wâg neu yn llawn,
Mewn llwyddiant neu mewn siomedigaeth,
Gwylia dy hun,
Cofia dy hun,
A chymer bob gofal o honot dy hun.
Gwylia dy hun,
Cofia dy hun,
A chymer bob gofal o honot dy hun.

Os wyt ti am fynd i farchnad neu ffair,
Neu rywle i ganlyn cyfeillion,
Wel, cyfra dy fysedd ryw ddwywaith neu dair,
A chyfra y draul a'r colledion;
Ond odid na chai,
Fod llygredd rhyw rai,
Ag awydd i'th hudo p'le bynnag yr ai.
Gwylia dy hun,
Cofia dy hun,
A chymer bob gofal o honot dy hun.

Os gweli di eneth yn falchder i gyd,
Yn gwisgo ei hunan â rhodres,
A gwên fel y fall ar ei gwyneb bob pryd,
A dichell yn llonaid ei mynwes,

Edrych i'r nen,
Ysgwyd dy ben,
A phaid a rhoi'th galon rhy fuan i Gwen;
Gwylia dy hun,
Cofia dy hun,
A chymer bob gofal o honot dy hun.

A thithau'r ferch ieuanc, pan weli di ddyn
Yn siarad yn fêl ac yn fenyn,
Feallai fod geiriau mor felus a'r gwin
Yn cuddio dyfnderoedd o wenwyn.
Fe ddwedir o hyd
Fod angel y stryd,
A diafol pen pentan i'w cael yn y byd;
Gwylia dy hun,
Cofia dy hun,
A chymer bob gofal o honot dy hun.
Gor. 18, 1873.