Gwaith Mynyddog Cyfrol 1/Chwareu Teg I'r Merched

Oddi ar Wicidestun
Y Byd Yn Mynd Gwaith Mynyddog Cyfrol 1
Caniadau
gan Richard Davies (Mynyddog)

Caniadau
Gwylia Dy Hun

CHWAREU TEG I'R MERCHED

MAE llawer llanc a llawer dyn
Yn aml iawn i'w clywed,
Yn dweyd fod beiau'r byd bob un
Yn bod o achos merched;
A dwedant mai trwy ferch y daw
Pob gofid y'm yn gynnal,
Er pan fu'r drwg yn Eden draw,
Pan lyncodd Efa'r afal.
Ond chwareu têg i'r merched,
Peidiwch gwawdio'r merched,
Mi fuasai'r byd o chwith i gyd
Pe buasai heb y merched.

Pwy byth gaiff flas ar bryd o fwyd
Os na fydd merch o'i ddeutu?
Mae'r bwrdd yn edrych yn ddigon llwyd
Pan na fydd Efa'n trefnu;
Gadewch i'r merched gael y gwir,
Beth bynnag gaffo'i ddwedyd,
Os yw eu tafod braidd yn hir,
Mae'u pennau'n hirion hefyd.
Ond chwareu têg i'r merched,
Peidiwch gwawdio'r merched,
Mi fuasai'r byd o chwith i gyd
Pe buasai heb y merched.

Aeth Jones Ty'n y Groes yn ugain oed,
I ofyn am briodi,
At Elin Edwards, Tan y Coed,
Fel hyn dywedodd wrthi,—

"Os doi di'n wraig i Dy'n y Groes,
Rhaid iti fod yn ufudd,
A thendio arnaf hyd fy oes,
Os wyt am fod yn ddedwydd.'

"'Rhoswch dipyn, Mr. Jones, os ydw'i i fod yn Mrs. Jones, Ty'n y Groes, 'dydw'i ddim i fod yn slave i Mr. Jones, oblegid, —

Chwareu têg i'r merched,
Peidiwch gwawdio'r merched,
Mi fuasai'r byd o chwith i gyd,
Pe buasai heb y merched.

Ymhen rhyw ugain mlynedd llawn,
'Roedd Elin yn mynd heibio
I Dy'n y Groes ar ryw brynhawn,
A Jones yn hen lanc eto;
A dyna lle'r oedd Jones yn chwys
Yn ceisio golchi'i goler,
A newydd fod yn golchi'i grys
Mewn cawl hyd at ei hanner.

Ar hyn, fe'gorodd Elin y drws yn ddistaw bach, a dechreuodd ganu,—

Chwareu têg i'r merched,
Peidiwch gwawdio'r merched,
Mi fuasai'r byd o chwith i gyd
Pe buasai heb y merched.
Meh. 11, 73,