Gwaith Mynyddog Cyfrol 1/Y Byd Yn Mynd
← Dydd Gwyl Dewi | Gwaith Mynyddog Cyfrol 1 Caniadau gan Richard Davies (Mynyddog) Caniadau |
Chwareu Teg I'r Merched → |
Y BYD YN MYND
MAE pawb yn mynd wrth steam yn awr,
Fu 'rioed y fath fynd o'r blaen,
Mae'r byd yn chwilio i fyny ac i lawr,
Ar draws, yn ol ac ymlaen;
Os sefwch chwi eiliad ar ryw bryd,
I siarad rhyw air â ffrynd,
Mi gollwch afael yng nghynffon y byd, —
Bydd y gynffon a'r byd wedi mynd !
Mae'r ager yn pyffio, yn pyffio'n mhob man,
A chwyrnu ymlaen y mae'r byd,
Mae'r cwbl yn mynd-mynd-mynd,
Ar garlam-ar garlam i gyd.
Bu llawer o frol gyda mul a throl,
Neu gyfrwy ar gefn y march,
Cael carriage and four, to pull up at the door,
Ers dyddiau gyfrifid yn barch
Ond bellach mae carnau y ceffyl glân,
Gan 'rafwch, yn gwneud dyn o'i go';
Mae dyn erbyn heddyw'n cyfrwyo y tân,
Ac yn dweyd wrth y mellt,—Ji, wo.'
Mae'r ager yn pyffio, yn pyffio'n mhob man,
A chwyrnu ymlaen y mae'r byd,
Mae'r cwbl yn mynd-mynd-mynd,
Ar garlam-ar garlam i gyd.
Mae'r ager yn difa y pellder o'r byd,
Daw'r amser i ben yn ddioed,
Aiff cerbyd o'r ffasiwn trwy'r byd i gyd,
A dynion yn piclo'u dau droed;
Mae nerth y steam yn troi ei hun
Olwynion fach a mawr;
Mae hyd 'nod tafodau y gwragedd bob un
Yn troi wrth steam yn awr.
Mae'r ager yn pyffio, yn pyffio'n mhob man,
A chwyrnu ymlaen y mae'r byd,
Mae'r cwbl yn mynd-mynd-mynd,
Ar garlam-ar garlam i gyd.
Wrth steam, mewn llawer pentref bach,
Mae chwedlau'n cael eu gwneud,
Wrth steam mae llawer tafod gwrach
Yn mynd pan yn eu dweyd,
Wrth steam y nyddir chwedlau'n hir,
Y gwneir y ddau yn ddeg;
Ond pan aiff dyn i ddweyd y gwir,
Mae'n ddigon araf deg.
Mae'r ager yn pyffio, yn pyffio'n mhob man,
A chwyrnu ymlaen y mae'r byd,
Mae'r cwbl yn mynd-mynd-mynd,
Ar garlam-ar garlam i gyd.
Mai 23, 73.