Gwaith Mynyddog Cyfrol 1/Morfudd Puw

Oddi ar Wicidestun
I Mary Gwaith Mynyddog Cyfrol 1
Caniadau
gan Richard Davies (Mynyddog)

Caniadau
Myfanwy Y Glyn

MORFUDD PUW

WAETH tewi na siarad,
Mae rhywbeth mewn cariad,
Onid oes, fechgyn?
Er cymaint o guro
A ddichon fod arno,
Mae cariad yn ennyn.

Waeth tewi na siarad,
Mae rhywbeth mewn cariad,
Onid oes, ferched?
Er ceisio ei lethu,
Mae cariad yn tyfu
Llawn mor gyflymed.

Er i ti lwyr gladdu
Dy hanes yn caru,
O dan wraidd dy fynwes,
Os sonnir wrth siarad
Am wrthrych dy gariad,
Daw gwrid mewn amrantiad
I ddweyd dy hanes.

Peth arall yn wastad
Sy'n rhyfedd mewn cariad,
Gall fyw'n eithaf tawel
Mewn bwthyn iselwedd,
Yn gystal a'r annedd,
Lle mae rhwysg a mawredd
Bonedd ffroen uchel.


'Does dim ond bron serchog
Yn ddigon galluog
I dynnu y palas
I ymyl y bwthyn,
A chodi hwn gwedyn
Cyn uched ei goryn
A chartref urddas.


Genethig dlôs oedd Morfudd Puw,
Yn dlysach braidd na neb o'i rhyw
Oedd yn yr ardal honno;
A llawer llanc wrth weled hon
A deimlodd rywbeth dan ei fron
Na fedrai ddim ei 'sbonio.

Ymrithiai cariad ar ei boch
Trwy dlysni pur y rhosyn coch
Eisteddai yno'n wastad;
Ac am ei llygaid bywiog, llawn,
Nis gwn i beth i'w galw'n iawn,
Os nad ffenestri cariad.

Amaethwr bychan oedd ei thad,
Heb weled fawr ond symledd gwlad
Fynyddig, wyllt, a dedwydd;
A gwyntoedd ffawd a chwythai luwch
Goludoedd i ryw leoedd uwch
Na chartref anwyl Morfudd.

Ond gwelwyd blodau llawn o swyn
Yn tyfu'n mysg y grug a'r brwyn
Ar hyd llechweddau'r mynydd;
Ac ymysg geirwon greigiau serth
Y cafwyd llawer perl o werth,
Ac un o'r rhain oedd Morfudd.


Bu llawer gwladwr lawer pryd
Yn chwilio am drysorau drud
Ymysg clogwyni'r mynydd;
Ond O ! daw estron yn ddioed
I gipio'r perl oddiwrth ei droed,
Ac felly fu am Morfudd.

'Roedd pawb trwy'r fro yn meddwl
Ei bod yn llawn o serch,
Ond, rywfodd, wedi'r cwbl,
'Doedd neb gai garu'r ferch;
Ymddangos byddai'n wastad
Fel seren dêg ei bri,
A holl nodwyddau cariad
Gyfeirient ati hi.

A llawer llaw a chalon
Yn estynedig fu,
A llawer oent ry fyrion
I gyrraedd Morfudd gu;
Bu delw'i gwyneb glanwedd
Mor ddwfn mewn llawer bron,
Nes methodd deugain mlynedd
Lwyr ddifa'r ddelw hon.

'Roedd Morfudd dyner unwaith
Yn cneua yn y coed,
Lle bu hi lawer canwaith
Yn ysgafn iawn ei throed,
Ar foncyff hen eisteddai,
Dan berth oedd werdd ei gwisg,
Ac yno syn-fyfyriai
Wrth dynnu'r cnau o'r plisg.


Tu ol i'r lle'r eisteddai,
Ar hyd y llwybr troed,
Daeth dau o hoew lanciau
Dan siarad, drwy y coed;
A pheth oedd pwnc y siarad
Pan ddaeth y ddau i'w chlyw,
Ond dadlu p'run oedd cariad
Anwylaf Morfudd Puw.

Pob un o'r ddau a farnai
Mai ef a fyddai'r dyn,
Pob un o'r ddau a ddygai
Ei reswm drosto'i hun;
Pan oedd y ddadl yn boethlyd,
A'r geiriau yn tynhau,
Daeth llais o'r llwyn yn dwedyd,
"Ni fynn hi'r un o'r ddau."

Bu mab i dir-feddiannydd,
A thipyn bach o 'stad,
Yn ceisio caru Morfudd
Trwy siarad hefo'i thad;
'Roedd hwnnw'n meddwl, druan,
Do'i Morfudd yn ei brys
I garu gŵr âg arian
Wrth ddim ond codi'i fŷs.

Pan aeth y llanc i siarad
A'r anwyl Forfudd Puw,
Deallodd wrth ei llygaid
Nad oedd ef at y lliw;
Peth gwael yw swllt am garu
Gan fron sy'n llawn o serch,
Nid llinyn aur all g'lymu
Dwy galon mab a merch.


'Roedd Morfudd yn godro ryw noson
Wrth lwybr yn arwain i'r llan,
Dan sibrwd ei difyr ganeuon
I glustiau yr awel leddf, wan,
Rhyw olwg rhwng llon a phryderus,
Neu rywbeth rhwng siriol a syn,
Feddiannai ei gwyneb cariadus,
Tra canai benillion fel hyn,—

"Mae'r adar bach ar frigau'r coed
Mor ysgafn droed a dedwydd,
Pob un a wêl ei gymar mwyn
Ar gwrr rhyw dwyn neu gilydd,
Ehedant bob yn ddau a dau,
Gan gydfwynhau eu pleser,
Pan gano un mewn hwyl di-wall,
Fe gân y llall bob amser.

"Ar lethr y mynydd mae dwy nant
Gyd-redant tua'r gwaelod,
Ac ar y gwastad yn y rhyd
Mae'r ddwy yn cyd-gyfarfod;
Nid oes dim a'u gwahana mwy,
Ymdodda'r ddwy i'w gilydd;
Mae'r ddwy nant fach yn un nant lawn,
Yn llawer iawn mwy dedwydd.

"A minnau sydd fel 'deryn bach
Mewn awyr iach yn hedfan,
Heb weld erioed mewn lle na llwyn
Un cymar mwyn yn unman;
Caf deithio f'oes o fryn i bant,
Fel nant ei hun fae'n llifo,
A marw'n môr tragwyddol fyd,
Heb neb i gydymdeimlo.


—————————————

Y FFRWD FAWR

"Mae 'nghalon yng Nghymru, ymwrando a fyn
Ar fiwsig y rhaeadr yn ystlys y bryn."

—————————————

Tra canai Morfudd, yn y fan
Daeth llanc ar hyd y llwybr troed,
Gofynnai iddi'r ffordd i'r llan,
Rhoes hithau ateb yn ddioed;
Aeth yn ei flaen, a dyna fu;
Ond pan y croesai dros y ddôl,
Ni fedrai llygaid Morfudd gu
Ddim peidio edrych ar ei ol.

Ni fedrai yntau yn ei fyw
Ddim edrych yn ei flaen yn syth,
'Roedd delw gwyneb Morfudd Puw
Yn troi ei ben i'w ysgwydd chwith;
Aeth godro heibio fel pob nos,
A thua'r tŷ 'r aeth Morfudd dlos,
Ond erbyn cyrraedd camfa'r ddôl,
Y stên a'r armel oedd ar ol.

Dechreuai siarad wrthi ei hun,
A dweyd yn frysiog, "Neno dyn,
Cyn sicred ag mai gwyn yw'r ôd,
Mae rhywbeth rhyfedd heno'n bod;
Ni wnes erioed o'r blaen fath dro,
Mae'n rhaid fod rhywbeth ar fy ngho';"
A gwirio'r hen ddiareb wnaed,
Arbeda'r coryn byth mo'r traed;
Anghofio wnaeth wrth fynd yn ol
Fod llo yn pori ar y ddôl,
Ac ar yr adeg beth a wnaeth
Y llo, ond troi y stên a'r llaeth.

Ymhen pythefnos union,
Eisteddai Morfudd dirion
Ar fainc oedd yn yr ardd;

A'r rhosyn mewn sirioldeb
A wenai yn ei gwyneb,
Yr hwn oedd gywir ardeb
O wyneb Morfudd hardd.

Ni chlywai mo'r aderyn
Oedd wrth ei chlust ar frigyn,
Yn hidlo peraidd gân;
Nid aethai'r noson honno,
A'r helynt hefo'r godro,
A'r llanc a basiodd heibio,
Ddim byth o'i chôf yn lân.