Gwaith Mynyddog Cyfrol 1/Myfanwy Y Glyn

Oddi ar Wicidestun
Morfudd Puw Gwaith Mynyddog Cyfrol 1
Caniadau
gan Richard Davies (Mynyddog)

Caniadau
Dwy'i Ddim yn Ianci Eto

MYFANWY Y GLYN

ER na feddaf aur na thrysorau di-ri,
Na bwthyn na phalas yn eiddo i mi,
Y mawrion a bia bob maenol a bryn,
Ond y fi bia galon Myfanwy y Glyn.

Mae'r ffrydlif yn gwenu wrth redeg i'r pant,
A'r brithyll yn chwareu yn nyfroedd y nant;
A gwenu a chwareu wnaf finnau fel hyn,
Tra mai fi bia galon Myfanwy y Glyn.

Mae'r ŵyn ar y bryn mor ddifyrrus a llon,
A'r adar yn canu yng nghoedwig y Fron,
A llawen wyf finnau 'run fath a'r rhai hyn,
Tra mai fi bia galon Myfanwy y Glyn.