Gwaith Mynyddog Cyfrol 1/Perthynasau

Oddi ar Wicidestun
Cadw Dy Groen Yn Iach Gwaith Mynyddog Cyfrol 1
Caniadau
gan Richard Davies (Mynyddog)

Caniadau
I'r Pant y Rhed y Dŵr

PERTHYNASAU

PAN fyddo rhyw ddyn yn ymgodi
Yn rhywle i fyned yn fawr,
A'i arian yn dechreu cyd-groni,
Cewch glywed y bobol is lawr
Yn taeru fod hwnnw yn perthyn
Yn agos i bawb o'nynt hwy,
Mae'n ewyrth, neu gefnder, neu blentyn,
Neu rywbeth i bawb yn y plwy.
Peth braf yw bod yn ŵr mawr,
Peth hynod yw bod yn ŵr mawr;
Mi gewch yr holl ddaear i'ch llyfu
Os byddwch yn bwt o ŵr mawr.

'Roedd Jones Tan y Bryn yn gyfoethog,
Yn berchen ei diroedd a'i dai,
A thystiai hen wrach y Cae Draenog
Fod Jones iddi hithau yn nai;
Bu'n gefnder i bawb o'i gydnabod,
Ac ewyrth i'r byd am wn i,
A Jones oedd gan Sian hir ei thafod
Yn fodryb gwaed coch iddi hi.
Peth braf yw bod yn ŵr mawr,
Peth hynod yw bod yn ŵr mawr;
Mi gewch yr holl ddaear i'ch llyfu
Os byddwch yn bwt o ŵr mawr.

Ond fel y mae pob amgylchiadau
Yn newid a throi gyda ffawd,
Ymhen rhyw ychydig flynyddau,
Aeth Jones Tan y Bryn yn dylawd;

Ac wedi iddo syrthio i dlodi,
Ei gefndryd, a'i neiaint, a'i gwâd,
Nid ydyw, ar ol mynd i gyni,
Yn perthyn i neb yn y wlad.
Peth braf yw bod yn ŵr mawr,
Peth hynod yw bod yn ŵr mawr;
Mi gewch yr holl ddaear i'ch llyfu
Os byddwch yn bwt o ŵr mawr..

Gofala, wrth ddewis cyfeillion,
I gael rhai fo'n deilwng a thêg,
Os bydd dy logellau yn llawnion,
Peth hawdd yw cael cyfaill hin dêg;
Os gelwir di'n ewyrth neu gefnder,
Gochela rhag gweniaith ysgwrs,
A chofia mai'r arian yw'r ewyrth,
A chefnder y byd yw dy bwrs.
Peth braf yw bod yn ŵr mawr,
Peth hynod yw bod yn ŵr mawr;
Mi gewch yr holl ddaear i'ch llyfu
Os byddwch yn bwt o ŵr mawr.
Tach. 4, '73.