Gwaith Mynyddog Cyfrol 1/Pymtheg Mlynedd Yn Ol

Oddi ar Wicidestun
Ni Wn I Ddim Yn Wir Gwaith Mynyddog Cyfrol 1
Caniadau
gan Richard Davies (Mynyddog)

Caniadau
Darllawdy y tebot

PYMTHEG MLYNEDD YN OL.

WY'N cofio pan yn bymtheg oed,
Yn byw ym mwthyn Ty'n y Coed,
Fy mod i'n llanc gwiriona 'rioed
Am bob rhyw gastiau ffôl;
Ond erbyn hyn gwnaeth amser maith
Newid fy natur lawer gwaith,
Dwy' ddim mor ieuanc ag own i 'chwaith
Bymtheg mlynedd yn ol.

Os daw rhyw dwyllwr draws y wlad,
A'i galon ddu yn llawn o frad,
Gan feddwl cael rhyw gryn fwynhad
Wrth dwyllo dynion ffôl,
Pan ddaw ef yma ar ei daith,
Yna caiff wybod heb fod yn faith
Nad wy' ddim mor ifanc ag own i chwaith
Bymtheg mlynedd yn ol.

'Roedd Gwen Fron Fraith yn eneth glên, .
Rown i yn ieuanc, hithau'n hen,
A rywsut rhwng ei gwisg a'i gwên,
Eis i i'w charu'n ffôl ;
Ond yn lle cymeryd modrwy gron,
Beth feddyliech chwi ddwedodd hon?—
"'Dwy' ddim mor ieuanc ag own i, John,
Bymtheg mlynedd yn ol.”

Digwyddais gwrdd â Gwen ddydd Llun,
Gofynnodd imi,—"Neno dyn,
Ple mae'ch addewid chwi eich hun,
Bymtheg mlynedd yn ol?"

Ond chedwais i na sŵn na sên,
Dwedais yn dawel er mwyn gwneud pen,—
"'Dwy' ddim mor ieuanc ag own i, Gwen,
Bymtheg mlynedd yn ol.”

Rwy'n cofio'n burion ddyddiau gynt
Pan own i 'n ieuanc ar fy hynt,
Mor rydd, mor iach, a'r awel wynt,
Ar ol pleserau ffôl;
Ond erbyn hyn mae amser maith
Wedi rhoi arnaf lawer craith,
'Dwy' ddim mor ieuanc ag own i 'chwaith
Bymtheg mlynedd yn ol.
 Mehefin 4, 1868.