Neidio i'r cynnwys

Gwaith Mynyddog Cyfrol 2/Clywch Y Floedd I'r Gad

Oddi ar Wicidestun
Y Gôf Gwaith Mynyddog Cyfrol 2

gan Richard Davies (Mynyddog)

Y Ddwy Briodferch

CLYWCH Y FLOEDD I'R GAD.

(Geiriau Cymraeg ar ymdeithdon newydd Mr. B. Richards, "Let ihe hills resound.")

Clywch y floedd i'r gâd—i'r gâd!
Yn adseinio bryniau'r wlad;
Ymdonna'r ddraig
Ar ben bob craig,
Fry yn y nen;
Tra saif yr ieuanc wawr
I orenro'r Wyddfa fawr,
Fe saif y Cymro dewr
Dros ei Walia wen.

Dewrder pur
A lanwo'r galon ddur;
O dewch yn llu
Dros Gymru fu
A Chymru fydd;
Rhyw hawddfyd llon
Gorona'r ymdrech hon;
A chanu wnawn,
A'n bronnau'n llawn
'Nol cael y dydd.
Clywch y floedd, &c., &c.

Anwyl wlad, fy anwyl wlad,
Nefoedd o fwynhad
Ydyw byw a marw
Yn bur i ti;

Rhydd dy nentydd bach,
A dy awyr iach,
Nerth yn fy mraich
A fy nghalon i:
Trig cerdd a chân
Rhwng dy fryniau glân,
A chaniadau mwyn dy delynau mâd;
Ac mae'r awen wir
Yn llenwi'th dir—
Gwynfa y byd yw fy anwyl wlad.
Clywch y floedd, &c., &c.

Nodiadau

[golygu]