Gwaith Mynyddog Cyfrol 2/Y Ddwy Briodferch

Oddi ar Wicidestun
Clywch Y Floedd I'r Gad Gwaith Mynyddog Cyfrol 2

gan Richard Davies (Mynyddog)

Beth Sydd Anwyl

Y DDWY BRIODFERCH.
(Efelychiad)

Mi welais yn yr eglwys
Ddwy eneth heirdd eu gwedd;
'Roedd un mewn gwisg priodas,
A'r llall yng ngwisg y bedd.

Darllenwyd y gwasanaeth,—
"I'r byw, i fyw," aeth un;
A'r llall yng nglynn marwolaeth
Briododd Angeu'i hun.

Fe aeth y ddwy i'w cartref
Yn ieuanc iawn en gwedd;
Aeth un i'r palas gorwych,
A'r llall i'r tywyll fedd.

Deffroai un y bore
Mewn byd llawn poen a chlwy;
Y llall oedd fil mwy dedwydd,
Cael peidio deffro mwy.

Nodiadau[golygu]