Gwaith Mynyddog Cyfrol 2/Corn y Gad

Oddi ar Wicidestun
Ffarwel y Flwyddyn Gwaith Mynyddog Cyfrol 2

gan Richard Davies (Mynyddog)

Gŵyl Dewi Sant

CORN Y GAD

(Y miwsig gan D. Emlyn Evans)

Mae corn y gâd yn galw'n hŷf,
A'n nghalon innau'n ateb hwnnw,
Mae'n galw ar y dewr a'r cryf
I fuddugoliaeth neu i farw,—
Ffarwel, f'anwylyd! Ail-adseinia'r nen
I gorn y gâd—ffarwel fy Ngwen.

"Ti wyddost nad yw'n iawn i ferch
I dynnu cledd ar faesydd gwaedlyd,
Er hyn gall anfon gweddi serch
At Dduw i'r nef dros ei hanwylyd;
Cei di fy mendith, Arthur, ar dy ben,
A'r nefoedd deimlo gweddi Gwen."

'Does neb ond y dewr yn haeddu cael bod
Yn deilwng i'w caru, yn deilwng o glôd;
Na neb ond gwladgarol a ffyddlon hoff fun
Yn haeddu cael calon y milwr a'r dyn.

Nodiadau[golygu]