Gwaith Mynyddog Cyfrol 2/Gŵyl Dewi Sant

Oddi ar Wicidestun
Corn y Gad Gwaith Mynyddog Cyfrol 2

gan Richard Davies (Mynyddog)

Rwy'n Disgwyl y Post

GWYL DEWI SANT

Da gan Gymry gydgyfarfod,
Wyl Dewi Sant,
A iaith y Cymry ar bob tafod,
Wyl Dewi Sant;
Son am Gymru gynt a'i hanes
Gyda gwên a chalon gynnes,
A chalon Cymro ym mhob mynwes,
Wyl Dewi Sant.

Gwened haul ar ben y Wyddfa,
Wyl Dewi Sant,
Chwardded ffrydiau gloewon Gwalia,
Wyl Dewi Sant;
Gwyl hudolaidd, gwyl y delyn,
Gwyl y canu, gwyl y cenin,
Nyddu cân a phlethu englyn,
Wyl Dewi Sant.

Cadwn hen ddefodan Cymru,
Wyl Dewi Sant,
Cinio cynnes cyn y canu,
Wyl Dewi Sant;
Llawer Cymro calon gynnes
Wisga genin ar ei fynwes,
A'r lleill ro'nt genin yn eu potes,
Wyl Dewi Sant.

Mae pob Sais yn hanner gwallgo,
Wyl Dewi Sant,
Eisieu o galon bod yn Gymro,
Wyl Dewi Sant;

Dwed y Sais dan wisgo’i faneg,—
"Fi yn leicio’r Welsh bob adeg,
Ag fi ddim dweyd un gair o Sasneg,”
   Wyl Dewi Sant.

Y ganwyll frwyn fo’n goleu’n siriol,
   Wyl Dewi Sant,
A’r tanllwyth mawn fo’n twymo’r gongol,
   Wyl Dewi Sant;
Ac wrth oleu mawn y mynydd,
Pur wladgarwch elo ar gynnydd,
A’n serch fo’n ennyn at ein gilydd,
   Wyl Dewi Sant.

Nodiadau[golygu]