Gwaith Mynyddog Cyfrol 2/Cymru Fu, a Chymru Fydd

Oddi ar Wicidestun
Taro Yr Hoel Ar Ei Phen Gwaith Mynyddog Cyfrol 2

gan Richard Davies (Mynyddog)

Perthynasau'r Wraig

CYMRU FU, A CHYMRU FYDD

"I’r gâd!" "I’r gâd!" ddaw gyda’r gwynt
O faesydd gwaedlyd Cymru gynt,
I’r gâd i gyd, i’r gâd ar goedd,
Ar creigiau’n clecian gan y floedd;
Er treiglo am fil o oesau chwith,
Mae’r floedd "I’r gâd" heb farw byth;
Mae fel yn adsain nos a dydd,
Mai "Cymru fu a Chymru fydd."

Ar faesydd gwaedlyd Cymru fu
Fe dyfa blodau cariad cu;
"I’r gâd" yn awr heb saeth na chledd,
"I’r gâd" dan faner glaerwen hedd;
Mae’r cleddyf dur mewn hûn di-fraw,
Ac arfau rhinwedd ar bob llaw;
Pelydra heulwen hanner dydd
Ar Gymru fu a Chymru fydd.