Gwaith Mynyddog Cyfrol 2/Taro Yr Hoel Ar Ei Phen
← Siom Serch | Gwaith Mynyddog Cyfrol 2 gan Richard Davies (Mynyddog) |
Cymru Fu, a Chymru Fydd → |
TARO YR HOEL AR EI PHEN.
Mae ambell i saer gyda’i forthwyl
Yn taro yr hoelen yn gam,
Ac ambell i un sydd mor drwsgwl
A phe bai’n rhoi’r morthwyl i’w fam;
Ond hyn sydd yn iawn a dymunol,
Pan godi dy forthwyl i’r nen,
Gofala wrth daro, ’n wastadol,
I daro yr hoel ar ei phen.
Mae llawer areithiwr go ddoniol,
’Nol dodi y testyn i lawr,
Yn dwedyd pob peth amgylchiadol,
Heb son am ei destyn am awr;
Siarada mor ddiflas a phlentyn,
A thry wyn ei lygaid i’r nen,
Paham nad ai’r dyn at ei destyn,
A tharo yr hoel ar ei phen?
Aeth bardd i wneud pryddest anghomon,
A’r testyn oedd ci Ty’n y March,
Dechreuodd yng nghwymp yr angylion,
A’r cŵn aeth at Noah i’r arch;
’Rol canu pum mil o linellau,
Gwnaeth bennill i’r ci yn y pen;
Paham na bae beirdd y pryddestau
Yn taro yr hoel ar ei phen?
Aeth llencyn am dro gyda’i gariad,
A soniai mor braf oedd yr hin,
A’i bod hi mor bethma yn wastad
Os na fyddai’r tywydd yn flin;
Pam na fuasai’r llelo anghelfydd
Yn gofyn addewid gan Gwen,
A siarad am fodrwy lle’r tywydd,
A tharo yr hoel ar ei phen?
Ebrill 19, '75.