Gwaith Mynyddog Cyfrol 2/Dewch i Gneua
Gwedd
← Dalen Cyfaill | Gwaith Mynyddog Cyfrol 2 gan Richard Davies (Mynyddog) |
Lolian a Lili → |
DEWCH I GNEUA
GEIRIAU RHANGAN (Part Song)
(Y Gerddoriaeth gan Mr. D. Lewis, Llanwrtyd)
O dewch i gneua tua'r coed,
Fa, la, la,
Yn llawen galon, ysgafn droed,
Fa, la, la;
Cawn eistedd dan y gwyrddion ddail,
A chwareu ym mhelydrau'r haul,
A thorri cneuen bob yn ail,
Fa, la, la.
Cawn weld dedwyddwch 'deryn bach,
Fa, la, la,
Yn trwsio pluf ei aden iach,
Fa, la, la;
A'i weld yn esgyn fry i'r nen,
Neu'n canu ar y gainc uwchben,
A ninnau'n canu wrth fôn y pren,
Fa, la, la.
Ar ol yspeilio'r llwyni cyll,
Fa, la, la,
Cawn ddychwel adref gyda'r gwyll,
Fa, la, la;
Cawn gydymdwymno a mwynhau
Wrth danllwyth mawn y bwthyn clau,
A chanu cân, a thorri cnau,
Fa, la, la.