Gwaith Mynyddog Cyfrol 2/Lolian a Lili

Oddi ar Wicidestun
Dewch i Gneua Gwaith Mynyddog Cyfrol 2

gan Richard Davies (Mynyddog)

Y Ffarmwr

LOLIAN A LILI

O'r anwyl, y mae fy rhieni
Am imi roi 'mwriad ar Mari,
Tra gwyddant eu dau
Nad allaf fwynhau
Fy hunan heb lolian â Lili.

Be waeth am athroniaeth rhieni?
Anghariad yw ceisio 'nghynghori,
Mae rheswm mor bŵl
Yn siarad fel ffwl
Er pan eis i lolian â Lili.

Gofynwyd im' gynnyg ar Gweni,
Sy' a dwyfil o ŵyn ar lan Dyfi;
Pob parch i Gwen fwyn
A'i defaid a'i hwyn,
Ond gwell gen i lolian â Lili.

Fe drinir fy mod yn pendroni,
A mod i'n rhoi 'nhraed yn y rhwydi;
Mae 'nhraed ddigon rhydd,—
Fy nghalon i sydd
Mewn rhwyd ar ol lolian â Lili.

Gwyn fyd na fa'i'r rhaeadr yn rhewi
I atal ei gân i'r clogwyni,
Er mwyn im' gael awr
O eistedd i lawr
Yn dawel i lolian â Lili.

Pe bai gennyf ddawn i farddoni,
Anadlwn fy serch wrth fwyn odli;
Cae'r awen fâd rydd
Bob nos a phob dydd,
Ddigonedd o lolian â Lili.

Nodiadau[golygu]