Gwaith Mynyddog Cyfrol 2/Y Ffarmwr

Oddi ar Wicidestun
Lolian a Lili Gwaith Mynyddog Cyfrol 2

gan Richard Davies (Mynyddog)

O Dewch Tua'r Moelydd

AWEL Y BORE

"Rhwng hafnau'r bryn uchel mae'r awel erioed
Yn smalio a chwareu yn ysgafn ei throed."

—————————————

Y FFARMWR

Y ffarmwr yw bywyd y gwledydd,
Rhwng dau gorn yr aradr mae'n byw,
Efe yw tywysog y meusydd,
Ni phlyga i neb ond ei Dduw;
Os ydyw yn chwysu'r cynhaeaf,
Ynghanol ei lafur fe gân,
Ca wledda yn oerni y gaeaf,
A chanu yn ymyl y tân.

Pan rua y gwyntoedd a'r stormydd,
A phan y daw gwanwyn dilyth,
Pan chwery yr ŵyn ar y dolydd,
A robin yn gwneuthur ei nyth,
A'r ffarmwr i'r maes gyda'r hadau,
A haua ei hâd yn ei bryd,
Er llenwi ei holl ysguboriau
A bara i borthi y byd.

Pan gasgla ei wenith i'w ydlan,
A'i wartheg i'r beudy gerllaw,
Fe eistedd yn ymyl y pentan,
A chwardda 'r y gwyntoedd a'r gwlaw;
Ni ŵyr am uchelgais na balchder,
Ond gwna ei ddyledswydd fel dyn,
A cheidw ei feddwl bob amser
Ynghanol ei fusnes ei hun.

Nodiadau[golygu]