Gwaith Mynyddog Cyfrol 2/O Dewch Tua'r Moelydd
Gwedd
← Y Ffarmwr | Gwaith Mynyddog Cyfrol 2 gan Richard Davies (Mynyddog) |
Y Gôf → |
O DEWCH TUA'R MOELYDD
O dewch tua'r moelydd,
Lle mae grug y mynydd
Yn gwenu yn ei ddillad newydd grai,
Mae glesni yr entrych
Yn gwenu mor geinwych,
Wrth syllu lawr ar geinion mwynion Mai;
Dewch i gyd,
Dewch tua bro'r grug a'r brwyn,
Mae'r dolydd yn deilio,
A'r byd yn blodeuo,
A'r adar yn llonni yn y llwyn.
Ar bennau'r mynyddoedd
Mae awel y nefoedd,
Yn siarad wrth y nef yng nghlustiau y llawr,
Mae dylif o iechyd
A ffrwd bur o fywyd,
Yng nghôl awelon iach y mynydd mawr,
Dewch i gyd, &c.
Dewch, gwelwch y clogwyn
Fel pe bae'n ymestyn
Gan godi'i law i'n gwahodd ar ei gefn,
Cawn redeg a chwareu
Fel iyrchod y creigiau,
A chanu cân drachefn ar ol trachefn;
Dewch i gyd, &c.
Mehefin 22, '69,