Gwaith Mynyddog Cyfrol 2/Dyfodiad Yr Haf

Oddi ar Wicidestun
Hen Gymry Oedd Fy Nhadau Gwaith Mynyddog Cyfrol 2

gan Richard Davies (Mynyddog)

Dalen Cyfaill

DYFODIAD YR HAF

Mi glywais fronfraith yn y llwyn
Yn canu bore heddyw,
A dwedai yn ei hanthem fwyn,—
"Mae'r gaeaf wedi marw."
Tra cana'r fronfraith beraidd glôd,
Mae'r haul yn gwenu'n llon uwchben,
A'r briaill mân wrth fôn y pren
Yn edrych fyny tua'r nen,
I weld yr haf yn dod.

Nodiadau[golygu]