Neidio i'r cynnwys

Gwaith Mynyddog Cyfrol 2/Hen Gymry Oedd Fy Nhadau

Oddi ar Wicidestun
Hen Awrlais Tal Y Teulu Gwaith Mynyddog Cyfrol 2

gan Richard Davies (Mynyddog)

Dyfodiad Yr Haf

HEN GYMRY OEDD FY NHADAU

Hen Gymry oedd fy nhadau gynt,
A Chymro glân wyf fi,
A charu'r wyf yr awel wynt
A hed dros Gymru gu;
'Rwy'n caru'r wlad a'm magodd,
Ei rhyddid pur a'i chlod,
Ac yn y wlad bu farw nhad
'Rwyf finnau fyth am fod;
Mi glywais am ryw wledydd
Sydd yn uwch mewn parch a bri,
Ond Cymru,—anwyl Gymru,
Sydd yn ddigon hardd gen i.
A'r sawl sy'n dewis gadael hon,
'Rwy'n dwedyd i ti, ffrynd,
Os cei di'n rhywle wlad sydd well,
Mae croesaw i ti fynd.

Feallai nad yw'n Gwyddfa ni
Mor uchel yn y nen,
A gallai nad oes cymaint trwch
O eira ar ei phen;
Feallai fod mynyddau mwy
I'w cael mewn gwledydd pell,
A gallai fod eu dolydd hwy
Yn frasach ac yn well;
Ond gennym ni mae'r cymoedd,
Gyda'u nentydd gloewon, glân,
Lle cenir tonau heddwch pur
Ar fil o dannau mân;
Mae yno ryddid ar bob bryn
Yn chwareu yn y gwynt,

A hen adgofion ym mhob glyn
Am ddewrder Cymry gynt.

Mae llynges Prydain ar y môr
Yn ben llynghesau'r byd,
Gall Prydain gau ac agor dôr
Yr eigion ar ei hyd;
Mae llawer Cymro ar ei bwrdd
A chalon fel y llew,
Yn barod ar bob pryd i gwrdd
A'r gelyn mwyaf glew;
Ni gadwn undeb calon,
Gyda modrwy aur y gwir,
Tra fyddo modrwy loew'r môr
Yn amgylchynu'n tir;
Os rhaid, ni godwn gleddyf dur,
Ac unwn yn y gâd
Dros ryddid hoff a chrefydd bur,
A gorsedd aur ein gwlad.

Mawrth, 1877.

Nodiadau

[golygu]