Gwaith Mynyddog Cyfrol 2/Hen Awrlais Tal Y Teulu

Oddi ar Wicidestun
Dyma Bedwar Gweithiwr Gwaith Mynyddog Cyfrol 2

gan Richard Davies (Mynyddog)

Hen Gymry Oedd Fy Nhadau

HEN AWRLAIS TAL Y TEULU

Glywch chwi gloch yr awrlais
Sydd yn taro awr 'rol awr?
Mal "un, dau, tri, pedwar, pump, chwech,"
Medd hen awrlais tal y teulu;
Ar y pared yma bu
Yn amser ein hen deidiau,
Fel rhyw fynach yn ei ddn
Yn rhifo eu munudau;
Dyma ddwed o bryd i bryd,—
"Byrr yw'ch amser yn y byd,
'Rwy'n dweyd 'r un peth o hyd o hyd,"
Medd hen awrlais tal y teulu.

Darnio amser yw ei waith,
A thra'n darnio oesau maith,
Mal "un, dau, tri, pedwar, pump, chwech,"
Medd hen awrlais tal y teulu;
Canodd gloch uwch ben y orud
Pan anwyd llawer babi;
Canu bu o bryd i bryd
Ar lawer dydd priodi;
"Clywch y gloch fu uwch y crud
Yn canu cnul o bryd i bryd,
I lawer oes fn yn y byd,"
Medd hen awrlais tal y teulu.
"'Rwy'n dweyd 'run peth o hyd o hyd,"
Medd hen awrlais tal y teulu.

Nodiadau[golygu]