Gwaith Mynyddog Cyfrol 2/Dyma Bedwar Gweithiwr
Gwedd
← Clywch y Floedd i'r Frwydr | Gwaith Mynyddog Cyfrol 2 gan Richard Davies (Mynyddog) |
Hen Awrlais Tal Y Teulu → |
DYMA BEDWAR GWEITHIWR.
Dyma bedwar gweithiwr dedwydd
Gyda chydymdeimlad llwyr,
Gydgychwynant gyda'r wawrddydd,
Gyd-ddychwelant gyda'r hwyr;
Maent yn meddu gwragedd hawddgar,
Gyda phedwar bwthyn iach,
Ae mae gan bob un o'r pedwar
Bob i bedwar plentyn bach.
Dringa'r pedwar aeliau'r creigydd,
Tyllant gernau'r clogwyn câs,
Ac â'r pedwar dan y mynydd
Ar ol gwythi'r lechen las;
Pedwar diben sydd i'r pedwar,
Tra mae'r pedwar yn cydfyw,
Caru'u gwaith, eu gwragedd hawddgar,
Caru'u gwlad, a charu Duw.
(Caneuon y Chwarelwyr, ar ymôr yn agos i'r Werddon, Mawrth 10fed, '77)