Gwaith Mynyddog Cyfrol 2/Galar! Galar! Galar!

Oddi ar Wicidestun
Cwynai Cymru Gwaith Mynyddog Cyfrol 2

gan Richard Davies (Mynyddog)

Maes Garmon

GALAR! GALAR! GALAR!

Galar, galar, galar,
Mae cewri y cysegr yn cilio o'r byd,
Galar, galar, galar,
A chenedl hiraethus yn ddagrau i gyd,
Seion a wisga'i galarwisg mewn braw,
A thannau ei thelyn yn ddarnau'n ei llaw.

Doder serch cerddorion, bellach,
Yn goronbleth uwch y bedd,
Cafodd ef goronbleth harddach
Gan gerddorion gwlad yr hedd,
Darfu sŵn hen delyn daear
Megis dan ei swynol law,
Hedodd yntau uwch pob galar
At aur delyn Gwynfa draw.

Huna, huna, blentyn Iesu,
Gorffwys wedi llafur maith,
Melus rhoi y cledd o'r neilldu
A chael llawryf pen y daith;
Cymysg oedd y cur a'r moliant
Tra yn rhodio 'r dyffryn du,
Mawl yw'r oll yng ngwlad gogoniant,
Mawl i enw'r Ceidwad cu.

Nodiadau[golygu]