Gwaith Mynyddog Cyfrol 2/Maes Garmon

Oddi ar Wicidestun
Galar! Galar! Galar! Gwaith Mynyddog Cyfrol 2

gan Richard Davies (Mynyddog)

Y Dyn Hanner Pan

MAES GARMON[1]

(Harlech)

Codwn faner hedd a gwynfyd
Fry i hofran trwy'r nen hyfryd,
Chwifiwn ein cleddyfau gwaedlyd
Pan yn troi o'r gâd;
Garmon fawr gyhoedda arwest
Wedi troi o faes yr ornest,
Bloeddiwn ninnau gân y gonewest
Nes y crynna'r wlad;
Adsain Haleliwia
Darfai fron y dewra,
Haleliwia dynnai'r nef
I ddilyn cleddyf Gwalia;
Bloeddiwn Haleliwia eilwaith,
Wedi cael yr oruchafiaeth,
Nes adseinio'r dywysogaeth
Gyda nerth ein llef;
Os yw'r gwaed yn llifo,—
Os yw'r meirw'n rhifo
Fel y glaswellt ger ein bron
Ar hyd Faes Garmon heno,
Pwy all rifo y bendithion
Ddaw trwy frwydr fawr Maes Garmon,
Pan aeth Haleliwia'n dewrion
Fry i glustiau'r nef!

Marw mae gwaeddiadau rhyfel
Yn y pellder gyda'r awel,

Ac mae gwawrddydd heddwch tawel
Yn ymgodi draw;
Gormes drengodd ar Faes Garmon,
Yno gorwedd gyda'r meirwon,
A daw rhyddid gyda'i rhoddion
Yn ei deheu law;
Canwn gerddi heddwch
Wedi nos o dristwch,
Aed ein Haleliwia glir
Ar aden gwir ddedwyddwch
Dros y bryniau, trwy'r dyffrynnoedd,
Hyd y glannau, trwy y glynnoedd,
Ac i fyny hyd y nefoedd
Fel taranau'r Iôr;
Crogwn ein banerau
Gyda'n dur bicellau,
Sychwn wrid y gwaed heb goll
Oddiar ein holl gleddyfau;
Rhed y newydd trwy bob talaeth
Am ein teilwng oruchafiaeth,
Nes adseinia Buddugoliaeth
Draw o fôr i fôr.

Nodiadau[golygu]

  1. Cyhoeddir trwy ganiatad Mr. Isaac Jones, Treherbert.