Gwaith Mynyddog Cyfrol 2/Y Dyn Hanner Pan

Oddi ar Wicidestun
Maes Garmon Gwaith Mynyddog Cyfrol 2

gan Richard Davies (Mynyddog)

O Dewch i Ben y Mynydd

Y DYN HANNER PAN

Fe safai'r hanner pan â'i fŷs yn ei gêg,
I edrych ar bobl yn myned heibio,
A phawb a gyd-ddwedent, 'nol barnu yn deg,
Fod diffyg go fawr i'w weld arno;
Er hynny ceid ganddo ryw fath o ffraethineb
Tu hwnt i'r cyffredin mewn ambell i ateb.

Ryw ddiwrnod fe welai ysmociwr lled hŷ'
Yn pasio dan fygu'n aruthrol,
A dywedai'r hanner pan,—"Peth od, ddyliwn i,
Na buasai ei sifnai ar y canol;
Mae arogl tra rhyfedd ar hwn gallwn dybied,
Gan y rhaid iddo fygu i atal y gwybed."

Rhyw dri crach foneddwr a basient y fan
Lle'r oedd yr hanner pan yn sefyll,
Gofynnodd un iddo, oedd Gymro go wan,—
"Ers pryd 'rwyt ti yma, yr ellyll?"
"Mi glywais gan rywun y pasiai tri mwnci,
Mi redais i edrych ai gwir oedd y stori."

Dyn meddw a ddaeth o'r naill ochr i'r llall,
Gan dyngu a rhegu'n erwinol;
Arllwysai ei wawd ar y dyn hanner call,
Gan dybio ei hun yn synwyrol;
"Mi glywais ddiareb," atebai'r hanner pan,
"Fod padell yn danod ei dduwch i'r crochan."

Fe basiai merch ieuanc brydweddol a thêg,
Yn troi mewn rhyw gylchoedd tra phwysig;
Ar ol iddi basio rhyw naw llath neu ddeg,
Fe waeddai'r hanner pan yn ffyrnig,—

"Oes peryg', my dear, i chwi ddadgymalu?—
Pwy ydyw y cooper a fu yn eich cylchu!"

Un arall a basiai 'mhen dwy awr neu dair,
A chwpl o blu' ar ei hetan,
Ro'wn innau yn gwrando, fel mochyn mewnhaidd,
I glywed sylwadau'r hanner pan;
A dywedai,—"Mi glywais fod merched yn wylltion,
Mae nhw'n magu plu'—ant i 'hedeg yn union."

Nodiadau[golygu]