Gwaith Mynyddog Cyfrol 2/O Dewch i Ben y Mynydd

Oddi ar Wicidestun
Y Dyn Hanner Pan Gwaith Mynyddog Cyfrol 2

gan Richard Davies (Mynyddog)

Os Ydym Am Fynd Trwy Y Byd

O DEWCH I BEN Y MYNYDD

(Y gerddoriaeth gan Mr. D. Emlyn Evans)


O dewch i ben y mynydd draw,
I weld yr haul yn machlud,
A natur gyda'i thyner law
Yn cau amrantau bywyd.

Fel arwr dan ei glwyf yr huan cun
Orwedda'n bruddaidd yn ei waed ei hun,
A'r llen sy'n derfyn rhwng y nos a'r dydd
A deflir dros ei wyneb prudd.

Ond wele'r ser yn filoedd
Ar hyd yr wybren dlôs,
Mor ddisglair y cabolwyd
Botymau gwisg y nos;
Os yw yr haul yn dangos
Prydferthion daear gref,
Mae'r nos, er twylled ydyw,
Yn dangos mwy o'r nef.

Nodiadau[golygu]