Gwaith Mynyddog Cyfrol 2/Os Ydym Am Fynd Trwy Y Byd

Oddi ar Wicidestun
O Dewch i Ben y Mynydd Gwaith Mynyddog Cyfrol 2

gan Richard Davies (Mynyddog)

Mil Mwy Hudol

OS YDYM AM FYND TRWY Y BYD

Os ydym am fynd trwy y byd
Heb gwrdd â phrofedigaeth,
A chael yr haul uwch ben o hyd,
Heb gwmwl siomedigaeth;
A throi gofidiau o bob rhyw,
I gyd yn fêl a menyn,
Y ffordd i ni yw dysgu byw
I gyd 'run fath a'r gwenyn.

Awn fel y gwenyn at ein gwaith,
Pan d'wyna haul y borau,
Bydd melus dod yn ol o'r daith
Dan lwyth o'r golud gorau;
Dos, ddyn, i'r maes, ac yno gwel
Ryw gyfoeth ar bob cangen,
Mae Duw yn dangos lle mae'r mêl
I'r sawl sydd arno'i angen.

Os gwlawia'r nen drallodion lawr,
Paid bod yn llwfrddyn claear,
A phaid a gwneud rhyw fynydd mawr
O dwmpath pridd twrch daear;
Os gweli rywdro yspryd syn,
Wel, paid a mynd i grynu,
Sylldremia yn ei wyneb gwyn,
Mae'n sicr o ddychrynu.

Os daw ynfydion ar eu taith
I gynnyg dy hyfforddi,
Dos di ymlaen i wneud dy waith
Ynghanol eu baldorddi;

Os daw celwyddau gyda'r gwynt,
'Run fath a'r gwynt darfyddant,
Mae rhaffau celwydd ym mhob hynt
Yn crogi'r rhai a'u nyddant.

Mae'n rhaid i'r storm gael rhuo'n brudd,
A ffyliaid fod yn ffyliaid,
Er hynny, synwyr wêl y dydd
I gladdu pennau byliaid;
Gan hynny rhwym dy wregys cryf
Pan fflachia'r mellt yn d'ymyl,
Ac edrych am yr haul yn hŷf—
Mae ef tu ol i'r cymyl.

Os wyt am gadw ar ffordd y gwir
A gochel bradus heidiau,
Gwell iti gadw'th draed o dir
Gwleidyddiaeth a'i holl bleidiau;
Mae "A. B. C." gwleidyddwyr tynn
A "V" ar ben y wyddor,
Ond main yw'r lle a geir i'r hyn
A elwir yn egwyddor.

Paid gwisgo'th galon ar dy fraich
Os na fydd eisieu hynny,
A phaid a chrymu dan dy faich,
Ond cwyd dy ben i fyny;
Boed gwres ymroddiad yn dy waed,
A dywed trwy bob tywydd,
Fod daear rhyddid dan dy draed,
A Duw uwch ben yn llywydd.

Nodiadau[golygu]