Gwaith Mynyddog Cyfrol 2/Mil Mwy Hudol

Oddi ar Wicidestun
Os Ydym Am Fynd Trwy Y Byd Gwaith Mynyddog Cyfrol 2

gan Richard Davies (Mynyddog)

O! Dedwydd boed dy hun

MIL MWY HUDOL

Byron enwog fu'n darlunio
Merch â blodau yn ei llaw,
Y peth tlysaf a fedd natur,
Er ei chwilio drwyddi draw;
A! ti fethaist, Byron ddawnus,
Er dy fost, dy glôd, a'th fri,
Swyn i'r llygad sydd yn unig
Yn dy arlun clodfawr di.

Mil mwy liudol i fy nghalon
Clywed merch, cartrefle swyn,
Fel yn arllwys ei llais treiddgar
Am ben llais piano mwyn;
Seiniau natur yn ymblethu
Gyda sain offeryn hardd,—
Dawn a dysg yn ymgofleidio
Dodda galon dyner bardd.

Wrth im' weld ei bysedd meinion
Fel yn dawnsio gyda hoen,
Ar allweddau yr offeryn—
Ffoai gofid, ciliai poen;
Teimlwn fysedd cudd tynerwch
Ar holl dannau'm calon wan,
Bron na syrthiais i ber-lewyg
Gan y swyn oedd yn y fan.

Anwyl eneth, wrth im' wrando
Ar eich llais, oedd imi'n wledd—
Gweled delw gwir brydferthwch
Fel yn eistedd ar eich gwedd,

Dychymygais mewn mynydyn
Fod angylion Gwynfa lân,
Rhwng eich dysg, eich moes, a'ch doniau,
Yn eiddigus wrth eich cân.

Nodiadau[golygu]