Gwaith Mynyddog Cyfrol 2/Gwrando'n Rasol Ar Ein Cri

Oddi ar Wicidestun
Geiriau Llanw Gwaith Mynyddog Cyfrol 2

gan Richard Davies (Mynyddog)

Y Medley Cymraeg

GWRANDO'N RASOL AR EIN CRI

(EMYN)

Groesaw'n awr! I Iesu'n brawd,
Ar liniau Mair mewn natur dyn,
Ac ar y groes cymerai'n gwawd
A'n beiau trymion arno'i hun;
Clyw ein gweddi, Geidwad cu,
Gwrando'n rasol ar ein cri.

Dros bechadur, rhedai'n lli
Waed a dwfr, o'i anwyl fron.
Dyma'r ffynnon! Boed i ni
Olchi'n beiau i ffwrdd yn hon;
Clyw ein gweddi, Geidwad cu,
Gwrando'n rasol ar ein cri.