Gwaith Mynyddog Cyfrol 2/Y Medley Cymraeg

Oddi ar Wicidestun
Gwrando'n Rasol Ar Ein Cri Gwaith Mynyddog Cyfrol 2

gan Richard Davies (Mynyddog)

Dychweliad y Morwr

Y MEDLEY CYMRAEG

Fel 'roeddwn yn rhodio ar doriad y wawrddydd,
Pan ganai yr adar yn felus a llon,
Pan dyfai'r blodionos ar gloddiau y dolydd,
A'r gwlith ar eu gruddiau o amgylch Llwyn Onn,
'Roedd geneth yn godro yn ddifyr tan ganu,
A nesais i weled pwy ydoedd y ferch,
A gwelwn

Ferch Megan ei hun
Mor iached a'r rhosyn,
A'i llygaid yn dân o fywyd a serch;
'Roedd adar y llwyn
Yn tewi i wrando
Er clywed y gân a ganai fel

Hen ferch yn gwau ei hosan,
Ar hyd y nos,
A'i gweill bach glic glic yn clecian
Ar hyd y nos,
Canai'r gath ar ben y pentan,
Canai hithau ganig ddiddan,
Tra y canai'r gwynt tu allan
Ar hyd y nos;
Rhedai'i meddwl tra yn canu
At wroldeb yr hen Gymry

Pan oedd gwaedlyd y gyflafan,
Gan wŷr Harlech ruthrent allan
Nes adseiniai bryniau anian
Floedd y rhain i'r gâd;


Benyr grogent ar hen greigiau,
A neuaddoedd y mynyddau
Ail ddywedent y bloeddiadau
Dros ein hanwyl wlad;
Rhuthrent tua'r dyffryn,
Gledd yng nghledd â'r gelyn,
Gwŷr mewn gwaedd oedd gylch eu traed
Ynghanol braw a dychryn,
Nes y

Gelyn giliai ar Nos Galan,
Fa la la, &c.,
Ac aeth pawb i'w fwth ei hunan,
Fa la la, &c.,
Tynnu diliau tannau'r delyn,
Fa la la, &c.,
Wnaent i'w gilydd heb un gelyn,
Fa la la, &c.
Chwef. 18, '72.