Gwaith Mynyddog Cyfrol 2/Owen Tudur

Oddi ar Wicidestun
Geiriau Cydgan Gysegredig Gwaith Mynyddog Cyfrol 2

gan Richard Davies (Mynyddog)

Y Ddraenen Wen

OWEN TUDUR

[1]

(Cantawd)

Mae Owen Glyndwr yn ei fedd,
Ar ol tymhestlog ddiwrnod,
A'r gwaed a erys ar ei gledd
I ddweyd ei hanes hynod;
Y rhosyn gwyllt wrth glywed hyn
Ar fedd y gwron hwnnw
Sydd fel rhyw angel yn ei wyn
Yn gwenu dros y marw.

Dewch, delynorion, cenwch dôn
Ar ol cael hir orffwyso,
Mae gŵr yn byw'n Mhenmynydd Môn
A gyfyd Gymru eto;

Er fod priddellau Cymru wen
Yn feddrod i'w thrigolion,
Hil Cymro glân fydd bia'r pen
Gaiff eto wisgo'r goron.

Dyma delyn anwyl Cymru,
Dyma fysedd eto i'w chanu,
Er fod gormes bron a llethu
Ysbryd pur y gân;
Byw yw'n hiaith a byw yw'r galon
Gura ym mynwesau'n dewrion,
Mae gan Gymru eto feibion
A'u teimladau'n dân;
Pan fo'r cledd yn deffro,
Ac eisiau llaw i'w chwyfio,
Mae hon i'w chael o oes i oes
Wrth ysgwydd hael pob Cymro.

Fflamia'i lygad, chwydda'i galon,
Pan y gwêl ormesdeyrn creulon,
Cadw'i wlad rhag brad yr estron
Yw ei bennaf nôd;
Mae llwch ein hanwyl dadau,
Sy'n nghadw dan garneddau,
Yn dweyd yng nghlust pob Cymro dewr
Am gadw ei iawnderau;
Ac mae'n bryniau uchel beilchion,
A'n hafonydd gwyllt a gloewon,
Yn rhoi awgrym cryf mai rhyddion
Ydym byth i fod.


Y GENNAD,—
At bendefigion Cymru
Sy'n hannu o uchel fôn,
Mae gennyf genadwri
O blas Penmynydd Môn;
Cynygiodd Owen Tudur
Ei galon gyda'i law
I Catherine, y frenhines,
Mae hithau'n dweyd y daw.
Os na ddaw rhyw atalfa,
Priodant yn ddioed,
Mae'r ddau mor hoff o'u gilydd
Ag unrhyw ddau fu 'rioed;
Ai tybed bydd 'run Cymro,
Pan ddaw y dydd i ben,
Heb roi hawddamor iddo
Nes crynno'r Wyddfa wen?


PENDEFIG,—
Fel un sy'n teimlo gwaed Cymreig
Yn berwi yn fy mynwes,
'Rwy'n methu'n glir a chael boddhad
Wrth wrando ar yr hanes;
Mae gwaed brenhinol Brython hyf
Yn curo'n mynwes Owen,
A dylid cadw hwn mor bur
Ag awyr Ynys Brydain.


PENDEFIG ARALL,—
Gadewch rhwng cariad a Rhagluniaeth
A phriodi dynol ryw,
Mae gwaed y Sais a gwaed y Cymro
Bron 'run drwch a bron 'run lliw;

Feallai bydd yr uniad yma,
Pan ry'r olwyn dro i ben,
Yn agor ffordd i gerbyd heddwch
Dramwy drwy yr Ynys Wen.

Gwened blodau gwylltion Cymru
Ar eu modrwy loew dlôs,
A boed haul yn gwenu arni,
Gwened lloer a ser y nos;
Gwened Sais a gwened Cymro,
Na foed gŵg ar unrhyw ael,
A gwened nef uwch law y cyfan,
Mae gwên o'r nef yn werth ei chael.


PENDEFIGES,—
Heblaw gweniadau'r lleuad wen,
A gwenau'r haul o fynwes nen,
Heblaw gweniadau'r nefoedd fry,
Cânt wên rhianedd Cymru gu;
Boed meibion Gwalia ddydd yr wyl
Yn dyrchu banllef lawn o hwyl,
Anadlwn ninnau weddi wan
I glustiau'r nefoedd ar eu rhan;
Pob bryn fo'n dal ei faner wen,
Pob cloch fo'n canu nerth ei phen,
Ni daenwn ninnau flodau fyrdd
A dail byth-wyrddion ar eu ffyrdd.


CYDGAN,—
Mae gwawr yn torri dros sir Fôn,
A Chymru'n gwenu arni,
Mae sŵn llawenydd yn y dôn,
A diolch yn y weddi;

Mae'r clychau'n effro ym mhob llan
Yn prysur ddweyd y newydd,
A'r awel fach yn gwneud ei rhan
I'w gludo draws y gwledydd.

Y BARDD,—
Methodd Owen Glyndwr rwymo
Teimlad pawb mewn rhwymau hedd,
Megis tonn mewn craig yn taro
Oedd dylanwad mîn ei gledd;
Ond mae Owen Tudur dirion
Wedi uno'r ynys lon,
Gwnaeth i'r Cymry dewr a'r Saeson
Wenu'n nghylch y fodrwy gron.

CYDGAN,—
Chwyther yr udgorn ar lethrau'r Eryri
Nes bo'r clogwyni'n dafodau i gyd,
Bannau Brycheiniog fo'n llawn o goelcerthi
Er mwyn gwefreiddio y wlad ar ei hyd;
Llonned y delyn bob treflan a phentref,
Heded y cerddi ar ddiwrnod yr wyl,
Ar flaen adenydd alawon y Cymry,
Nes bo pob ardal yn eirias o hwyl.


Fe gwympodd ein gwrolion
Wrth gadw hawl ein coron,
Rhag iddi fynd o Walia Wen
I harddu pen rhyw estron.

Mae llef oddiwrth y meirw
Sy'n dweyd yn ddigon croew,
Yn adlais glir ar lan pob bedd,
Na fedrai'r cledd mo'i chadw.


Deallodd Owen Tudur
Athroniaeth bennaf natur,
Ein coron trwyddo ef a gawn
Heb nemawr iawn o lafur.


CYDGAN,—

Mae modrwy a chariad yn curo y cledd
Heb aberth o fywyd nac eiddo,
Ca'r bwa a'r bicell gyd-huno mewn hedd,
A heddwch ac undeb flodeuo;
Teyrnwialen a choron ein hynys bob pryd
A ddelir gan hil meibion Gwalia,
A chryma teyrnwiail brenhinoedd y byd
Yn ymyl teyrnwialen Britannia.

Ar ddydd y briodas cenhinen y Cymry
Wisgwyd gan Owen i harddu ei fron,
A rhosyn y Saeson osodwyd i harddu
Bron ei anwylyd edrychai mor llon;
A byth wedi hynny mae'r ddau'n un blodeuglwm,
Mae'r rhos a'r genhinen yn harddu'r un fron;
Bu bysedd dwy genedl yn gosod y cwlwm,
A thyfa y ddau yn y fodrwy fach gron.

Os hoffech gael gwybod effeithiau'r briodas,
Holwch briddellau maes Bosworth yn awr,
Yno coronwyd dymuniad y deyrnas,
Ac yno y syrthiodd gormesdeyrn i lawr;
Mae adsain y fanllef fuddugol trwy'r oesau
Yn gwibio o glogwyn i glogwyn trwy'n gwlad,
Bydd clôd Harri Tudur a dewrder ein tadau
Ar ol y fath ymdrech mewn bythol fawrhad.


Esgynnwn i'n mynyddau,
A holwn hen garneddau
Sy'n cadw llwch ein tadau
Ar ol blinderus hynt;
Ateba'u llwch o'r beddau
Fod gwaed ar hyd eu llwybrau,
A myrdd o orthrymderau
Yn blino Cymru gynt.

Ond wedi i'r Tuduriaid
Gael dod yn benaduriaid,
Cyduna'r holl Brydeiniaid
I ufuddhau i'w pen;
Mae aeron pêr y blodau
Yn tyfu'n meusydd brwydrau,
A heddwch lond calonnau
Hen deulu'r Ynys Wen.

Ar orsedd bena'r ddaear,
Dan goron hardda'r byd,
Eistedda Buddug hawddgar
Dan wenau'r nef bob pryd;
Mae gwaed brenhinol Owain
Yn llifo trwy'r llaw sydd
Yn dal teyrnwialen Prydain
Uwchben miliynnau rhydd.


Y fesen a blanwyd ar ddydd y briodas
Dyfodd yn dderwen gadarna'n y byd,
Dau begwn y ddaear yw terfyn y deyrnas,
A chariad yn rhwymo y deiliaid ynghyd;

Gogledd a deau sy'n dangos eu miloedd
O ddeiliaid i orsedd Victoria a dwng,—
"Mae gan ein Brenhines ddigonedd o diroedd
I'r llew mawr Brytanaidd i ysgwyd ei fwng."


Na foed adseiniau'n cymoedd
Yn cael eu deffro mwy
I ateb sŵn rhyfeloedd
Ar hyd eu llethrau hwy;
Tywysog gwlad y bryniau
A ddalio tra bo byw,
Yn noddwr i rinweddau
Dan nodded llaw ei Dduw.

Nodiadau[golygu]

  1. Ymddengys fod Cymru, tua'r amser y priododd Syr Owen Tudur â'r frenhines Catherine, a'i rhagolygon yn dra thywyll. Yr oedd Owen Glyndwr yn ei fedd ers llawer o flynyddoedd, wedi oes o ymdrech deg i gadw annibyniaeth ei genedl, a'r ymdrech honno wedi troi yn fethiant. Cynllun y Gantawd ydyw fod cynhadledd o uchelwyr a phendefigion a phendefigesau Cymru wedi ymgynnull mewn man penodol i ymdrin ac i drafod sefyllfa ddirywiedig y wlad. Dychmygir hefyd fod yno fardd a cherddor yn bresennol, fel y byddai braidd bob amser mewn cynhulliadau o'r fath yn yr oesau hynny. Pan oedd y bardd a'r telynor yn canu y pennill cyntaf yn y Gantawd, y mae cennad yn dyfod i mewn yn hysbysu fod Syr Owen Tudur yn myned i'w briodi â'r frenhines Catherine. Danghosir ychydig o wahaniaeth barn rhyngddynt yn y mater ar yr olwg gyntaf.

    Y mae llawer o benhillion diweddaf y Gantawd at ryddid y cerddorion i'w rhannu yn unawdau, deuawdau, neu gydganau, fel y bo eu barn a'u chwaeth.