Gwaith Mynyddog Cyfrol 2/Y Ddraenen Wen

Oddi ar Wicidestun
Owen Tudur Gwaith Mynyddog Cyfrol 2

gan Richard Davies (Mynyddog)

Ifan Fy Nghefnder

Y DDRAENEN WEN

Eisteddais dan y ddraenen wen
Pan chwarddai bywyd Ebrill cu
Mewn mil o ddail o gylch fy mhen,
A myrdd o friall o bob tu;
Eisteddai William gyda'i Wen,
Ac Ebrill yn ei ruddiau gwiw,
Tra canai'r fwyalch uwch ein pen
Ei chalon yn ei chân i Dduw;
Rhoi William friall ar fy mron,
A modrwy aur yn llaw ei Wen;
Mi gofiaf byth yr adeg hon
Wrth eistedd dan y ddraenen wen.

Nodiadau[golygu]