Gwaith Mynyddog Cyfrol 2/Ifan Fy Nghefnder

Oddi ar Wicidestun
Y Ddraenen Wen Gwaith Mynyddog Cyfrol 2

gan Richard Davies (Mynyddog)

Yr Hwn Fu Farw Ar Y Pren

IFAN FY NGHEFNDER.

Dyma godl yn dwbl odli;
'E wnes y prawf o ran
spri.

Aeth Ifan fy nghefnder yn ysgafn ei droed,
Ryw noson i hebrwng ei Fari;
A phan wrth y gamfa sy'n troi at Ty'n Coed,
Fe daflodd ei fraich am ei gwarr hi.

Ond cyn iddo prin i gael amser i ddweyd,—
"Pa bryd caf dy weled di eto?"
Na gwybod yn hollol pa beth oedd o 'n wneud,
Aeth awel o wynt gyda'i het o.

A phan oedd o 'n rhedeg a dim am ei ben,
I geisio, a ffaelu dal honno,
Fe welai ar ol dod yn ol at ei wen
Fod y ci wedi dianc â'i ffon o.

Heb hidio rhyw lawer am het nag am ffon,
Siaradai â Mari'n ddi-daro;
Ond cyn iddo ddechreu cynhesu ei fron,
Fe drawodd rhyw stitch yn ei warr o.

"A ddoi di, f'anwylyd," dywedai yn syn,
"I chwilio am fodrwy'n ddioedi?"
Ac er mwyn rhoi sêl ar ddywediad fel hyn,
Fe sangodd y brawd ar ei throed hi.

"A wnei di roi ateb, O Mari, fy mun?"
A'i gruddiau ddechreusant a chochi;
Ac Ifan nesaodd at Mari fel dyn,
A rhoddodd ddau gus ar ei boch hi.


Wrth weled rhyw hyfdra fel hyn yn y brawd,
Ni ddarfu'r cusanu ei swyno;
Dywedodd "Nos da" gyda dirmyg a gwawd,
A rhedodd i ffwrdd dan ei drwyn o.

Aeth Ifan i'r gwely yn sobr a syn,
A dwedai fel dyn wedi monni,—
"Gwyn fyd na f'ai serch rhyw hogenod fel hyn
Yn cadw am byth o fy mron i."

Er hynny, tae Mari'n dod heibio ei dŷ,
Ac Ifan ar ganol breuddwydio;
Mae cariad yn meddu atyniad mor gry',
Ni synwn un blewyn na chwyd hi o.

Nodiadau[golygu]