Gwaith Mynyddog Cyfrol 2/Yr Hwn Fu Farw Ar Y Pren
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
← Ifan Fy Nghefnder | Gwaith Mynyddog Cyfrol 2 gan Richard Davies (Mynyddog) |
Hen Fynwent Llanbrynmair (darlun) |
YR HWN FU FARW AR Y PREN
Yr Hwn fu farw ar y pren
Dros euog ddyn o'i ryfedd ras,
O! agor byrth y nefoedd wen
I'n dwyn uwchlaw gelynion cas.
Y diolch byth, y clod a'r mawl
Fo i'r anfeidrol Un yn Dri,
Gwna ni yn etifeddion gwawl
Y Ganan nefol gyda Thi.