Gwaith Mynyddog Cyfrol 2/Y Frenhines a'r Glowr
← Bad-Gan | Gwaith Mynyddog Cyfrol 2 gan Richard Davies (Mynyddog) |
Dychymyg, Heda → |
Y FRENHINES A'R GLOWR
(Er cof am waredigaeth y Ty Newydd. Cyfansoddwyd i Mr. D. Emlyn Evans).
- Y FRENHINES
Brysiwch, fellt, ar hyd y gwifrau,
Saethwch dros y bryn a'r ddôl,
Treiddiwch lawr i'r erch ddyfnderau,
Dewch a'r newydd i ni'n ol,
A oes gobaith i'r gwroniaid
Gipio yspail angau du,
A rhoi goleu i'r trueiniaid
O glaer lusern gobaith cu.
- Y GLOWR
Ofnadwy fu'r pryder,—y dychryn oedd fawr,
Ar drothwy bytholfyd yn disgwyl yr awr,
Ond pan ddaeth curiadau'n cydweithwyr i'n clyw,
Deallem fod tân cydymdeimlad yn fyw;
A bron ein brenhines o'i gorsedd wen, fawr,
Yn toddi o serch dros y glowyr yn awr.
- Y FRENHINES
Gwisga'r eurdlos ar dy ddwyfron,
Gyda llawryf werdd y gwron
Cana'r ddaear oll dy fawl.
- Y GLOWR
Cymer dithau, Buddug dirion,
Ddiolchgarwch glowr ffyddlon,
I wladgarwch pura'i galon
Y mae gennyt gyflawn hawl.
Daeth teimlad dyngarol fel tân nef ei hun
I rwymo brenhines a glowr yn un,
Mae gorsedd a thlodi'n diflannu draw, draw,
I rinwedd a chariad gael cydysgwyd llaw.