Gwaith Mynyddog Cyfrol 2/Bad-Gan

Oddi ar Wicidestun
Y Glowr a'r Chwarelwr Gwaith Mynyddog Cyfrol 2

gan Richard Davies (Mynyddog)

Y Frenhines a'r Glowr

BAD-GAN

Rhwyfwn, rhwyfwn yn ein badau,
Canwn gyda bron ddiglwyf,
Tynnwn, tynnwn drwy y tonnau,—
Cadwn amser gyda'r rhwyf;
Dacw faner gwawr y borau
Yn ymdorri ar y bryn,
Ac yn taflu rhes o'r bryniau
Ar eu pennau i lawr i'r llyn.
Rhwyfwn, rhwyfwn, &c., &c.

Dyfnach, dyfnach, â y tonnau,
A'r cysgodion yn fwy clir,
Gloewach, gloewach â'r wybrenau
Fel yr awn oddiwrth y tir;
Ar y lan mae'r lili swynol
Yn ymbincio yn ei gwyn,
Ac mae'r cymyl gloewon siriol
Fel rhyw elyrch gwynion nefol
Yn ymdrochi yn y llyn.
Rhwyfwn, rhwyfwn, &c., &c.

Nodiadau[golygu]