Gwaith Mynyddog Cyfrol 2/Y Glowr a'r Chwarelwr

Oddi ar Wicidestun
Beth Sydd Anwyl Gwaith Mynyddog Cyfrol 2

gan Richard Davies (Mynyddog)

Bad-Gan

Y GLOWR A'R CHWARELWR
(Geiriau deuawd i leisiau gwrywaidd)

Y DDAU

Pan fyddo'r rhew yn gwydro'r llyn,
A gwywo'r meillion mâd,
A'r disglair ôd fel arian gwyn
Ar hyd bob glyn a gwlad;
Pan fyddo'r gwynt yn chwythu'n gry'
A'r storm yn tramwy'r fro,
Mae'n dda cael glo i dwymno'r tŷ,
A llechi ar y tô.

Y GLOWR.

Myfi yw'r glowr du ei liw,
Sy'n mynd i lawr, i lawr,
I agor cistiau gwerthfawr Duw,
Sy'n nghroth y ddaear fawr;
O! cofiwch weithiau am fy mhoen
Tra'n twymno gylch y tân;
Os aflan yw fy ngwisg a nghroen,
Mae gennyf galon lân.

Y DDAU.

Cydweithiwn megis Cymry glân
I godi Gwalia wen,
I'r byd i gyd ni roddwn dân
A chysgod uwch ei ben.

Y CHWARELWR.

Chwarelwr siriol ydwyf fi
Yn byw ar ddant y graig,
I dynnu dail o'i chalon hi
I gadw tŷ a gwraig;

Os rhuo clôd mae'r fflamau tân
I'r glowr am y glo,
Dadganu clôd chwarelwr glân
Mae'r cenllysg ar y tô.

Y DDAU.

Cydweithiwn megis Cymry glân
I godi Gwalia wen;
I'r byd i gyd ni roddwn dân
A chysgod uwch ei ben.

Nodiadau[golygu]