Neidio i'r cynnwys

Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr)/Beth yw'r Gyfaredd

Oddi ar Wicidestun
Mary, anwyl Mary Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr)

gan Robert Owen (Bardd y Môr)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
I Flodeuyn yr Eira


BETH YW'R GYFAREDD.

BETH yw'r gyfaredd sydd
Fel breuddwyd nos a dydd,
Yn dwyn fy meddyliau prudd
Oddiwrth fy hunan?
Pam neidia'm calon gan
Lawenydd dieithr pan
Acenir enw Ann
I'm clust ar ddamwain?

Pam yr ymchwydda'm bron,
Megys terfysglyd don,
Tra'n syllu ar ddarlun hon
Ymhell yn Lloegr?
O Mary Ann, fy mun,
Mil haws im anghofio f'hun
Na byth im anghofio llun
Dy wyneb hawddgar.

Ond aethus im yw dw'yd,—
Fy mun nid mwyach wyd,
Ti decaf blentyn nwyd,
Er pob dymuno;
Arall sydd yn mwynhau
Weithian dy gwmni clau,
Arall yw'r un y mae
Dy galon arno.

Swynion hen ddyddiau fu,
Myrdd o adgofion cu,
Ac aml i drallod du,
Sydd wedi cysegru
Man puraf fy nghalon i
Yn annedd i'th ddelw di,
Nes, bellach, dy adgof sy
'N gyfran o honi.


Edrych ymlaen ar oes,
A'i haml chwerw loes,
A'i mynych awel groes,
A'i throion garw,—
Heb dy gymdeithas di,
Sy'n gwasgu o'm henaid li
O ddagrau, ac weithiau gri,—
O na bawn farw."

Eto, tra ynnwyf chwyth,
Mi'th garaf yn ddi—lyth,
Er nad yw fy nghalon byth
I'th feddu efallai;
Er fod iddo lanw a thrai,
Gwir gariad sy'n parhau
Fel yr eigion yn ddi—lai
Drwy bob newidiadau.

Fy hoffaf ddymuniad yw,
Fun anwyl, ar it gael byw
Teg flwyddi tan nodded Duw,―
Boed iti'n gyfran
Holl oreubethau byd,
Heb eu mil boenau 'nghyd,
A nefoedd dawel glyd
Fyth yn orffwysfan.

Chwef. 1877.

LLWYN GLODDAETH.

Afon Mawddach odditanodd, Cader Idris tu hwnt.


Nodiadau[golygu]