Neidio i'r cynnwys

Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr)/Cloch y Llan

Oddi ar Wicidestun
Trigfan yr Awen Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr)

gan Robert Owen (Bardd y Môr)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Y Gwanwyn i'r Amddifad


II.-CLOCH Y LLAN.


CLOCH Y LLAN.

HOFFED gennyf ydyw sain
Cloch y Llan!
Drymed imi ydyw sain.
Cloch y Llan!
Llengoedd o adgofion sydd
Yn tramwyo'm calon brudd
Pan y clywaf gyda'r dydd
Gloch y Llan.

Ganwaith pan yn blentyn gynt
Y'm hataliodd ar fy hynt
Cloch y Llan;
Elai chwareu'n llwyr o'm co,
Tra y gwyliwn lawer tro
Fel y siglai uwch y to,—
Cloch y Llan.


Dyddiau diddan oedd y rhain,—
Dyddiau pan
Nad oedd tristwch im yn sain
Cloch y Llan;
Ond yn awr wrth ganiad hon,
Gobaith drenga dan fy mron,
Fel y trenga nerth y don,
Ar y lan.

Flwyddi'n ol, ar foreu Sul
Oer a du,
Mewn ystafell lom a chul,
Gwyliwn i
Gydag ingoedd calon friw,
Ymdrech olaf tad i fyw,
Pan ddisgynnodd ar fy nglyw
Ganiad cloch y Llan.

Ond anghofiais fy mhruddhad
Yn y fan,
Pan y gwelais fod fy nhad,
Er yn wan,
Yntau'n gwrando, dan ei chwys,
Megis pe'r ddiweddaf wys,
Ar ganiadau prudd a dwys
Cloch y Llan.

Tawodd hon, ac yna daeth
Fel o waelod
Enaid yn ymroi gan aeth
Ei hir drallod,
Un ochenaid ddofn a maith,
A lefarai yn ei hiaith,—
"Dyma, dyma'r olaf waith
Clywai gloch y Llan."


Fe ddaeth eto foreu Sul
Duach, oerach,
Fe ddaeth eto i'r 'stafell gul
Ganiad pruddach;
Ond er dyfned oedd yr ust,
Siarad wnai y gloch wrth glust
Na wrandawa'i thonau trist
Byth mwyach.

Gorfu imi wedi hyn
Adael bro
Mebyd a mwynhad, a mynd
Yn fy nhro,
I wynebu stormydd byd
Heb amddiffyn un fu cyd
Imi'n gysgod ar bob pryd,-
Heb fy nhad.

Blwyddyn heibio aeth; a phan
Glywais nesaf
Hen ddolefain cloch y Llan,
Cludo'n araf
'Roeddym tua'r olaf man
Yn Llanaber, farwol ran
Un fuasai imi'n fam
O'r anwylaf.

Fe ddaw eto foreu ddydd
Yn y man,
Pan y clywir eto brudd
Gloch y Llan
Yn fy ngalw innau'n ol
Wedi gadael byd ar ol
I ymorffwys mwy yng nghol
Tad a mam.

Nodiadau[golygu]