Neidio i'r cynnwys

Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr)/Llythyr at fy Nheulu

Oddi ar Wicidestun
At Owen Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr)

gan Robert Owen (Bardd y Môr)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Ar y Môr


AT FY NHEULU.

FIN yr hwyr fy hunan yma
Pan yn syllu ar y lli,
Eirian gan belydrau 'r lleuad,
'Hedeg wna fy ysbryd i
Tua chartref rell a dedwydd,
Tuag aelwyd glyd a glân,
Ac anwyliaid sydd yn eistedd
Yno'n gwn o gylch y tân.

Yno'n grwn, ond nid yn gyfan,
Yno, fel mwynhad y llawr,
Llon y sgwrs, ond gwag un gadair-
Cadair "Dewis Bob" yn awr-
Bwlch yn rhagor yn y teulu,
O anwyliaid, tristed wy,
Pan feddyliwyf na chyflenwir
Yma byth mohono mwy!

Gwesgir gan ei phoen fy nghalon,
Ac fel Marah'm dagrau pan
Gofiwyf mai ymhlith dieithriaid
Mwyach oll y bydd fy rhan;
Ac na chaiff fy llygaid mwyach
Edrych ar wynebau sy
'N fil mwy gwerthfawr i fy enaid
Nag yw einioes, er mor gu.

Ni chaf ddangos mwy fy nghariad
Tuag atoch, ond o draw-
Byth gusanu'r plant ond hynny,
Byth eu harwain yn fy llaw
I hel blodau hyd y meusydd
Tra'n gwrando ar eu sgwrs fach hwy-
Gwisgo am danynt hwy, a'u danfon
I'w gorweddfa, byth, byth mwy!


Pan ga Ellen bach "ffog" newydd,
Fe fydd yna un yn llai
I'w hedmygu ac i'w chanmol,
Ac o'i gwynfyd i fwynhau;
A'r tro nesaf y gall Gruffydd
Mewn siwt newydd weld ei hun,
Ni chaiff "Dewis Bob" roi ceiniog
Yn ei ddwrn, na'i alw'n ddyn.

A'm chwiorydd bach amddifaid,
Er dyheu o'm calon am
Allu erddynt fyw i wneuthur
Olaf gais fy nhad a'm mam;
Er eu caru'n fwy na phopeth,
Iddynt ni bydd "Bob'y mrawd"
Mwy ond enw, megis argraff
Carreg beddrod dyn tylawd.

Dibwys hyn yng ngolwg ereill
Hwyrach, a phlentynaidd bron;
Ond i mi, fy ngruddiau lleithion
Ddengys beth y funud hon-
Gan mor llwm y byd o gariad,
Ac o deimlad pur ac iach,
Colled anrhaethadwy colli
Cariad perffaith plentyn bach.


Nodiadau[golygu]