Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr)/At Owen
← Ar ol Cyfeilles | Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr) gan Robert Owen (Bardd y Môr) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Llythyr at fy Nheulu → |
VI. AR Y MOR
AT OWEN.
NOS DAN Y CYHYDEDD.
O'R diwedd—O mor hyfryd!—dyma'r nos,
Ac oerni hafaidd wedi gwres y dydd;
A pher lonyddwch megis angof oes
O wae,—a hamdden i fy nghalon brudd
I geisio lleddfu ennyd ingoedd loes
Fy nadwahaniad a'r anwyliaid sydd,
Er dyfned yn fy nghof eu delwau hwy,
Mor belled eisoes, ac mor bell, bell mwy!
Owen, fy anwyl frawd, na fyddet yma,
Yma yn awr er im' gael arllwys rhan
I'th fynwes dyner di o'r dwys—deimladau
Sy'n araf-sicr lethu'm calon, pan
Nad oes i'w thost ymferwad mwy ollyngfa—
O fil mwy unig nag unigedd man,
Unigrwydd bod, unigrwydd barn a nwydau,
A diben bywyd—ac unigrwydd dagrau.
Ond dyma'r ser, cyfeillion hoff yr unig,
Yn dechreu syllu eto oddi.fry,
A threm mor ddifrif ddisglaer, er mor ddiddig,
Megis pe byddent lygaid ysbryd cu
Y Cread, neu ysbrydion dwys—buredig
Rhai a brofasant unwaith, fel nyni
Yn awr, flinderau bywyd, ac sy'n dyfod
I wenu arnom gysur yn ein trallod.
Mae'r Llathen Fair" yn twnnu uwch fy mhen,
A'r Llong" ddi—hwyl, a myrddiwn eraill yma.
Ar donnau'r aig, fel bryniau Cymru Wen,—
Yn twnnu eto'n union fel yn nyddiau
Fy mebyd, pan oedd eto glir fy nen,—
Yn union fel pan ddysgwn i eu henwau
Oddiar wefusau'm tad ar lannau'r Maw,
Wrth ddod o'r capel adref yn ei law.
Mor deg eu llewyrch, ac mor drist i mi!
Yn eu goleuni gwelaf,—O mor glir!—
Agweddau hoff ond gwelw'r hyn a fu
Ar hyn na fydd, yn niniweidrwydd pur
Y baban heb ei eni, gyda'r llu
O fyfyrdodau ffyddlon a fu'n hir
Yn gweini arnynt, ag sydd eto'n gwarchod
Eu coffadwriaeth rhag rhwd oes a'i difrod.
Mor deg eu llewyrch, ond mor ddiwahaniaeth,
'Rwyf yn eu cofio'n gwenu ar fy nhad
Yn nawn ei nerth, ac arnaf finnau 'ngobaith
Bachgendod iach, a chariad a mwynhad
Maent eto yn pelydru'r un mor odiaeth
Ar laswellt bedd fy nhad ac ar nacad
Y cwbl a obeithiais i ond bedd,―
Nerth, serch, enwogrwydd, meithder einioes, hedd.
Fy mrawd, a wyt ti'n cofio'r aml noson
Is goleu'r ser y buom ni ein dau,
Ar ol o'r ysgol ddyfod adre'n gyson,
Yn rhoi tro ar yr wyn ac yn mwynhau
Cydrhyngom mor ddiniwed ein breuddwydion
Am wynfyd y dyfodol, (nid ei wae
Can's nid oedd eto fustl yn ein cwpan,
A chennym dad a mam ag aelwyd gyfan?)
O ddyddiau dedwydd! megis adar mwynion
Yn dyfod o wlad bell, a hardd a chu
Ydyw i'm henaid i eu per adgofion—
Ónd tros ddiffaethwch erchyll ar bob tu
Yr hedant tuag ataf,—tros dor calon
Dirdynnol tad,—tros hiraeth dwfn a du
Fy mam, a'i hangau wedyn, a thros flwyddi
O boen i mi, a thristwch a thrueni!
Ond dyma'r clychau deg yn mynd, ymorol
Raid bellach am obennydd; cul yn wir
Fy ngwely, ond i mi nid anymunol,
Caf ynddo synfyfyrio'n hoff a hir
Am aml gyfaill cu, a châr mynwesol,
Ac am fy nheulu anwyl, ac am dir
Fy ngenedigaeth, nes o synfyfyrio,
Ymollwng drwy borth cwsg am danynt i freuddwydio.
"Nos da," fy mrawd, ergadael gwlad fy nhadau
Am ddieithr dir y deheu, ar fy ffo
Rhag tynged, ac yn fy chwim erlid angau,
Dy wyneb tirion eto yn fy ngho
Sydd fyth mor fyw, a'm henaid hyd ei seiliau
Sy'n wirach yn dy garu, fel mae'th fro
Yn trist bellhau, ac fel y trenga gobaith
O tan fy mron am gael dy weled eilwaith,