Neidio i'r cynnwys

Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr)/Ar ol Cyfeilles

Oddi ar Wicidestun
Y Ffordd i Baradwys Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr)

gan Robert Owen (Bardd y Môr)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Gobeithion Ieuenctid yn Gwywo


AR OL CYFEILLES.

Anadnabyddus i mi.[1]

ER diffodd o'i bywyd cyn imi erioed
A'm llygad o gnawd ei gweled,
A thewi ohoni cyn imi erioed
A'm clust o gnawd ei chlywed;
'R wyf wedi ei gweled, ac ar fy nghlyw
Ei llais mwyn a dwys fu'n disgyn
Ym myd fy nychymyg mae eto'n fyw,
Ac eto'n ddi-boen, megis plentyn.

Mae'r son am ei rhinwedd, a'i thymer gu,
Am burdeb serchog ei dwyfron,
Am dlysni ei gwenau, a'i dau lygad du,
Wasgarent ar bopeth eu swynion,
A'i thyner ieuenctid, a thegwch ei gwedd,
A'i phrudd-der, a grym ei thrallodion,
A chwerwder y dagrau gysegrant ei bedd;
Wedi ennyn holl serch fy nghalon.

Nid unwaith na dwywaith y bum uwchben
Y llannerch amdoa'i gweddillion,
Nid unwaith na dwywaith y wylais uwchben
Tir angof y fath ragorion;
Uwch angeu morgynnar, uwch aberth morgu,
Uwch siomiant y fath obeithion,
Uwch meddwl, er caru ohonof fi,
Na bum i ymhlith ei chyfeillion.


Ond-er curo'n ofer o'm calon yn awr
At galon sy'n distaw falurio,
Credu yr ydwyf, 'n ol gadael y llawr,
Y telir fy serch imi eto;
Ymhlith y gwynfydau pur a dilyth
Sy'n aros tuhwnt i'r wahanlen,
Fy ngwynfyd i fyddai mwynhau dros byth.
O gwmni yr hoff Ann Jane Owen.

1878.


Nodiadau[golygu]

  1. Merch i ffrind i mi yn y dref hon (Birmingham). Bu farw yn niwedd 1875, cyn i mi ddyfod yma; ond yr wyf wedi clywed cymaint am ei rhagoriaethau, a'i thrallodion carwriaethol, ag i deimlo dyddordeb anghyffredin yn ei hanes, fel yr awgryma yr ychydig benillion hyn.