Neidio i'r cynnwys

Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr)/Gobeithion Ieuenctid yn Gwywo

Oddi ar Wicidestun
Y Ffordd i Baradwys Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr)

gan Robert Owen (Bardd y Môr)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
At Owen


GOBEITHION IEUENCTYD YN MARW.

TRWM, trwm yw gweld gobeithion gwanwyn oes.
Fel egin cain, yn gwywo cyn addfedu,
Prudd canfod llawer gweledigaeth dlos,
Fel tarth y boreu, ymaith yn diflannu.

Nid dyfnach loesion mam goruwch y fan
Lle'r huna yr anwylaf un a fagodd,
Na chyni calon ieuanc, dyner, pan
Mae awen oes, ar ddechreu nos, yn diffodd.

Mor deg yr ymddangosai lliwiau bywyd
I'm llygaid pan yn fachgen deuddeg oed,
Heb gwmwl oll i daflu cysgod adfyd
Nac awel fain i sibrwd poen yn bod.

Bryd hyn ymrithiai llawer gwech olygfa
Mwy swynol nag oedd Eden ardd, o'm blaen,
'Roedd cyfoeth, dysg, enwogrwydd yn y pelldra,
Ac edyn gobaith yn y gwynt ar daen.

Ond duodd amgylchiadau cyn bo hir,
Amdowyd fi gan gymyl profedigaeth,
Ac yn y twllwch hwnnw, er fy nghur,
Diflannodd swynion hoff y weledigaeth.

Bu im gyfeilles yn fy nyddiau heulog,
Un deg a hawddgar fel y wawrddydd lon,
Un garwn hyd orphwylledd gan mor serchog
Ei chalon ieuanc atai 'r adeg hon.

Anorphenedig 1876.
[Gorffennwyd fel y canlyn yn unigedd
cystudd yn Awstralia.}

Cryf iawn cyfaredd y gobeithion hynny,
A lechent yng nghynteddau'i mynwes glau;

Ac O mor deg dyheu am oes i'w charu,
I'w pharchu, i'w hamddiffyn, i'w boddhau.

Y Nef a ŵyr mor werthfawr i fy llygaid
Oedd dim ond deigryn yn ei llygad du,
A minnau wn mor gyfyng ar fy enaid
Oedd gweld nad oedd ei chalon man y bu.

Bu im rieni, anwyl iawn a thyner,
Fuasent barchus unwaith yn y byd,
Er nad yn esmwyth, nac à mwyniant lawer,
Eto heb ddarostyngiad yn eu pryd.

Ond adfyd ddaeth, ac angeu, a phruddhad,
Hyder a gobaith ymaith wedi cilio;
Cydnabod yn troi draw, a nerth fy nhad
Cyn hanner cant mewn tristwch yn diffygio.

Fy nghalon innau wasgwyd hyd ei llethu
Gan bwys y ddyrnod, a chan rym eu gwae,
A'm mynwes ysid gan ymawydd gallu
Ysgafnu'r baich oedd beunydd yn trymhau.

Gobeithiais lawer, a dymunais fwy,
A phenderfynais, os fy llwyddai Duw,
Y mynnwn yn y man eu gweled hwy
Uwch angen a bys anfri eto'n byw.

Uwch angen a bys anfri aethant mwy,
Ond nid trwy'm cymorth i. Y Gelyn Olat
Wnaeth y gymwynas bennaf iddynt hwy;
A chyda'u llwch yr huna'm hawydd hoffaf.

Ac erbyn heddyw wele wedi trengu
Fy ngobaith cyntaf pan yn blentyn iach,
A'm gobaith olaf yma, fyth ond hynny-
Ofer gobeithio byw ond ennyd bach.


Ond trenged er mor gu, obeithion bywyd,
A gwaeded gan ei briw fy nghalon wan,
Ac aed fy nghorff i orwedd man yr huna
'R anwylaf oll, dan ddwys briddellau'r llan.

Mae gobaith eto sydd mor ddwfn ei wraidd
A gwraidd fy hanfod i, a'i gangen ir,
A'i ddeilen werdd, uwch awyr byd a draidd
Tuhwnt i'r ser, i awyr bywyd pur.

Mae eto fyd yn ol a lwyr gyflawna
Ein poenus ddiffyg yma, man y cawn
Fyth yfed per ddedwyddwch o gostrelau
Oedd yma fyth o chwerwder yn llawn.

Mesur ein diffyg yma a fydd yno
Fesur ein llawnder mwy. Ac O fwynhad,—
Cael Mary Ann dros byth i'm caru eto,
A gweld mewn gwynfyd mwy fy mam a'm tad.


Nodiadau[golygu]