Neidio i'r cynnwys

Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr)/Y Ffordd i Baradwys

Oddi ar Wicidestun
Cwympiad y Dail Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr)

gan Robert Owen (Bardd y Môr)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Ar ol Cyfeilles


Y FFORDD I BARADWYS.

WRTH ddrws ysbyty, un bore oerddu,
Yn curo'n wannaidd, a'i llaw blentynaidd,
A'i llaw fach deneu, seithmlwydd oed.

Ar ei gruddiau, yn lle rhosynau,
'Roedd ol y dagrau; ac yn ei phryd
Lwydni anghenion a gofid calon,
A hi ond ar drothwy bywyd a byd.

Y porthor agorodd, a hithau ofynnodd
Mewn tristwch a phryder, y fechan ddi-nam,—
"A wyddoch chwi, borthor, pa le mae fy mam?"

Mudsyllai'r dyn arni, gofidiai drosti,
Cans 'roedd ef yn meddu teimladau tad,
Ac a'i lygaid yn llenwi gan ddagrau tosturi,
Atebodd iddi,—
"Fy mechan fad,
Mae'th fam wedi symud, byth mwy i ddychwelyd,
Ac wedi cymeryd
Y ffordd tua Pharadwys wlad."

Gofynnodd hi eto, cyn troi oddiwrtho,—
"A fyddwch chwi gystal a dweyd i mi am
Y ffordd sydd yn cymwys fynd i Baradwys
Er mwyn im fynd yno at fy mam?"
Yntau mewn cyni pa beth i'w ddweyd wrthi,
Nis gallai amgen na phwyntio â'i law
Yng nghyfeiriad y ddwyrein-wlad,
Tua chyfodiad yr heulwen draw.

Ymaith a'r fechan tua'r dwyrain,
Ymaith ei hunan drwy'r oerni a'r gwlaw;

A phan y digwydd i'r neb a'i cyferfydd,
Wrth weld ei hunigrwydd a byrder ei cham,
Ofyn ei siwrnai, ei hateb fyddai,—
Rwy'n mynd i Baradwys i fyw at fy mam."

Ben bore wedyn cafwyd y plentyn
Megis mewn cynt-hun tawel a thlws,
Wedi rhynu ar risiau lleiandy,
A'i phen bach yn gorwedd ar riniog y drws;
I fewn ar fynwes tyner fynaches
Aethpwyd a'r fechan i stafell glyd,
Diosgwyd am dani, gwnaed popeth i'w chynhesu,
A'i hadfyw; ond ofer fu'r cwbl i gyd.

Eto, am eiliad agorodd ei llygad,
Gwasgodd eto ei gwefusau ynghyd,
Fel i ddweyd "Ffarwel" wrth ofid ac oerfel;
Yna rhoddodd ei henaid lam,
Nid i ddiddymdra, nid i dywyllfa,
OND I BARADWYS,
Yno i orffwys yn mynwes ei mam.


Nodiadau[golygu]