Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr)/Mary, Gyfeilles Hudol
← Forwynig Lân | Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr) gan Robert Owen (Bardd y Môr) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Ti ddywedaist → |
MARY, GYFEILLES HUDOL.
MARY, gyfeilles hudol,
Er nad yn fy meddiant i,
Fy hoffaf drysor daearol
Drwy bopeth ydwyt ti.
Mor oer yw gwresogrwydd geiriau
Wrth angerdd mynwes lawn hoen
Eiriaswyd mewn mil o beiriau,-
Siomiant, a gofid, a phoen;
Cuddio ac oeri teimladau
Y galon mae iaith o hyd,
Fel y cuddia y nifwl wenau
Heulwen oddiwrth y byd.
O Mary, na bai rhyw eiriad
Fynegai ddyfnder fy nghlwy...
Ddywedai mor gryf fy nghariad,
Mor ddwys, mor ddiobaith mwy;
Adroddai mor ddwfn yn fy nghalon,
Mor gymhleth a'm henaid i gyd
Mae'th ddelw, lodes lygadlon,
Uwch popeth arall y byd.
O na bai rhyw fodd im ddarlunio
Fel mae pob awyddiad mwyn,
Pob uchelgais, wedi eu trwytho
A'u lliwio dros byth å dy swyn;
Pob gobaith, pob ofn, pob llawenydd,
Pob tristwch, pob breuddwyd i mi,
A fu ac a fydd, sydd orlawn
O'r meddwl am danat ti.
Rhan oreu fy hanfod ydwyt,
Tydi ydyw'r unig ran
Ohonof, nad yw ddaearol,
Nad yw gyfnewidiol a gwan;
Ti sydd imi 'n cynrychioli
Ein dwyfiant dyfodol ni,
Ac er t'wlled pa beth i'w addoli,
Fy eilun gwastadol wyt ti.
Mewn llawer awr o dywyllwch,
O drallod, a gofid di-hedd,
Bum yn dyheu am dawelwch
Di-drallod, di-ofid y bedd;
Un gadwen euraidd yn unig
Bryd hynny a'm daliodd i'r lan,—
Pa fodd gadael byd cysegredig
I degwch a serch Mary Ann?
Edwinodd gobeithion imi
Dyfasent yn nghysgod y Llwyn,
A threngodd gan boen fy rhieni
Oedd gu iawn i'm henaid a mwyn;
Hen swynion oes aethant heibio,
A oedd mwy werth mewn bywyd ei hun?
O oedd, am fod yn ei oreuro
Hawddgarwch digymar un.
Bythefnos yn ol yr oeddwn
Ger ffenestr anwyl eich ty,
I'r hon filwaith yr edrychaswn
A chalon obeithiol a chu;
Dim ond pythefnos,-ac eto
Mor faith y diwrnodau er pan
Eisteddwn mewn llesmair yno
Yng ngrym cyfaredd y fan
A fu i mi yw'r presennol,
Rwy'n byw mewn amser a fu,
Ac nid oes yn swyn y dyfodol
Ond adswyn dyddiau fu;
A fu yw llawenydd mebyd,
A chariad mam a thad,
A heddwch meddwl, a gwynfyd
Meddiannu dy fynwes fad.
Wrth syllu ym myw dy harddwch
Gweled yr oeddwn ddedwyddwch
Colledig saith mlynedd yn ol;
Yn wysg fy nghefn 'rwyf yn cerdded
Drwy fywyd ymlaen, gan, wrth fyned
Hiraethu am bethau ar ol.
Ond, er treiglo saith o flynyddau,
Yr un ydwyt ti o hyd,
Yr un ydyw nerth dy wenau,
A thlysni gorhudol dy bryd;
Dy aelau teg sydd mor dywyll,
Dy wddf mor wyn ag erioed,
A'th lygaid mor dduon, mor anwyl,
A phan oeddit dair ar ddeg oed.
Dy gymdeithas hyd dragwyddoldeb,
A thrwy dragwyddoldeb di,
Yn unig a wnai anfarwoldeb
Yn werth ei ddymuno i mi;
Er hynny, ni chefais o'th gwmni,—
O wyrni popeth y llawr!
Mewn blwyddyn lawn o drueni
Ddim ond cwarter awr.
Fyd arall-fythol ddihangfa
Rhag holl anwadalwch oes,
Rhag gorfod ymadael mewn dagrau
Rhag cam, rhag enllib a'i loes;
Ni bydd yno iaith i dywyllu
Enaid rhag enaid dilyth;
Ac, O wynfyd! ni bydd yno garu
Yn ofer mwyach byth.
Minnau, er nas gallaf yma
Hawlio dy gariad ail waith,
Na phrofi mel dy gymdeithas
Dros lawer blwyddyn faith,
Caf yno o wedd dy wyneb
Fwynhau drwy oesau di-ri,
A'm gwynfyd i dragwyddoldeb
Fydd bod yn y fan lle bo'ch di.