Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr)/Forwynig Lân
← I Flodeuyn yr Eira | Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr) gan Robert Owen (Bardd y Môr) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Mary, Gyfeilles Hudol → |
FORWYNIG LAN.
Y Siomedig—i'w Hen Gariad.
FORWYNIG lân, forwynig gu,
Forwynig ddirmygadwy, hefyd;—
Er swyn a nerth dy lygaid du,
A theg osodiad dy wynepryd;
Anwadal ydwyt fel y tarth
Sy 'n awr ar daen, ac yna 'n cilio;
A chryf dy galon fel yr arth
Pan am ei chenaw mis yn chwilio.
Bu adeg pan y teimlwn i
Drydanol rym dy nefol wenau;
Bu adeg pan yn ddigon hy'
Yr ymgofleidiem a chusanau,
Bu adeg pan ddisgynnai trem
Dy lygaid serchog arnaf finnau
Yn dyner fel man wlith y nen
Wrth wlychu emrynt heirdd y blodau.
Bu adeg pan, yng ngwres ein serch
Y cyd—addunem fythol uniad,
Pan, gyda theimlad mynwes merch
Y mud—gyffeset rym dy gariad;
Do, do, fe fu, ond yn y man
Fe wgodd nefoedd fy ngobeithion,
Ac yna gwelais, Mary Ann,
Mor fyr yw bywyd addewidion.
Ond er prydferthwch balch y bryd,
A'r swyn gorchfygol yn dy lygad,
Ac er dy safle yn y byd,
A'th olud, a'th drahaus ymgodiad;
Cyn hir dy degwch ymaith ffy,
A'th gyfoeth all gymeryd aden,
Ac yna, os heb rywbeth mwy,
Beth bortha dy drahâ uchelben?
Ac er mor ddistadl fy ngwedd,
Yn awr, mae hyn yn gysur imi,
Y gallaf finnau cyn fy medd
O'm dinod gyflwr fry ymgodi;
Rwy'n teimlo nerth i fynd ymlaen,
Rwy'n gwybod grym ewyllys ddifeth,
A sicr wyf, er dŵr, er tân,
Ryw dro y mynnaf fod yn rhywbeth.
Ond er fy mod, tra ynnof chwyth,
Am ddringo'n uwch mewn cyfrifoldeb,
Nis gallaf fi ddymuno byth
Ddialedd am dy anffyddlondeb;
Cu iawn i'm henaid fuost ti,
A hoff dy ddelw eto imi,
Ac er mwyn adgof dyddiau fu
'Rwyf yn dwfn-erfyn llwyddiant iti.
1875.