Neidio i'r cynnwys

Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr)/Nos Sadwrn y Gweithiwr

Oddi ar Wicidestun
Y Ferch o'r Frongaled Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr)

gan Robert Owen (Bardd y Môr)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Cân Serch


Nos SADWRN Y GWEITHIWR.

Cyfieithiad o "The Cottar's Saturday Night" Burns.

Aiken, fy nghyfaill anwyl a pharchedig.
Nid un bardd cyflog sy'n dy warog di,
Elwa ar gân, ni fyn fy ngonest ddirmyg.
A chlod fy nghår yw'm hoffaf wobr i.
Mewn syml gred y canai'n awr i ti
Am feib dinodedd yn eu hisel ryw.
Am arwedd bur, a grym teimladau cu—
Am beth fai'm cyfaill pe mewn bwth yn byw,
Mwy dedwydd yno er o barch y byd a'i glyw.


TACHWEDD a'i oerwynt yn brochruddfan sydd,
A'r dydd byrhaus sydd bellach ar ddibennu;
Y wedd o'r cwysau lleidiog adre drydd,
A'r brain yn heidiau duol ant i'w gwely,
Y llesg fythynwr ddychwel at ei deulu—
Ei ludded wythnos heno gwblha—
Cynnull ei gaib, a'i raw, a'i gribyn chwynnu,
A thros y rhos tua'i gartre'n flin yr a
Gan feddwl am y saib a'r llonydd yno ga.

Ond dacw'i fwth unigaidd draw, dan gysgod
Hen goeden frigog; yno i blantos glân
Ymlwybrant am y cyntaf i'w gyfarfod,
Yn llon eu dwndwr megys adar mån.
Yr aelwyd ddel, ei gadair ger y tân,
Y baban ar ei lin, a darf yn lân
Ei flin ofalon ymaith, nes y gad
Dros gof ei ludded oll, yn llawnder ei fwynhad.

Toc daw'r plant hyna'i mewn, sy'n awr ar gyflog
Mewn ffermydd ogylch—un yn hwsmon sydd,
Arall yn fugail, arall, ffel a bywiog,
Red ar negesau'n chwyrn i'r dre bob dydd,
A'u hynaf anwes, Jenny deg ei grudd,

Ym mlodau'i bri, a'i threm gan serch yn fyw,
Ddwg ei gown Sul i'w ddangos, neu a rydd
I'w mam ei dygn ennill mis, os yw
Ei rhiaint anwyl trwy galedi'n methu byw.

Yn frawd a chwaer llongalon y cydgwrddir,
A mawr yr holi am eu ffawd bob un;
Dont bawb a'u newydd allan, ac mor ddifyr,
Nad ystyr neb ehedfa'r awr ddihun,
Hoff sylla'u rhiaint arnynt, ac ar lun
Eu byw obeithion yn eu llygaid dedwydd;
Y fam a'i siswrn chwim a'i nodwydd, sy'n
Gwneyd i hen ddillad edrych bron fel newydd;
Y tad eneinia'r oll, â chyngor dwys neu rybydd.

Rhybuddia hwynt i wneyd beth bynnag bair
Meistr neu feistres iddynt, ac heb duchan;
Ac edrych at eu gorchwyl yn ddiwair,
Ac, er o'r golwg, beidio byth ystelcian,—
"Ac O! gofalwch ofni Duw ym mhobman,
A gwnewch yn iawn eich dyled nos a dydd,
Rhag cyfeiliorni'ch traed yn llwybrau Satan;
Ond deisyf ganddo, pwyll a nodded rydd—
Ni ddychwel neb yn wag a'i ceisia Ef trwy ffydd."

Ond ust! mae rhywun wrth y drws—da gŵyr
Jenny pwy yw—llanc o gymydog iddi
Ddaeth tros y waen ar neges braidd yn hwyr,
Ac o gymwynas eilw'n awr i'w chyrchu.
Y fam gyfrwysgall wel yn llygaid Jenny
Dân serch yn perlio, ac yn twymo'i grudd.
Gofynna'i enw, a chalon ddwys a difri—
Ofna'r fun ateb, ond anadla'n rhydd
Pan glywa'i mham nad yw lanc ofer a difudd.

Dwg Jenny ef i mewn, â chroesaw mwyngu;
Llathraidd y llanc, dên fryd y fam heb air.


AFON MAWDDACH.

"Y Mawddach, fel harddwch mewn breuddwyd."
[H. Owen.


(Mor lon yw'r eneth nad oes neb yn gwgu!)
Ymgomia'r tad am wartheg, meirch, a gwair;
Gorlifa gan lawenydd galon aur
Y bachgen, fel nas gŵyr i ble y try,
Ond gwêl y fam o'r goreu beth a bair
Ei fod mor swil a sobr; boddlawn hi
Wrth feddwl fod ei merch fel eraill yn cael bri.

O ddedwydd serch, man caffer serch fel hwn!
O wynfyd calon! mwyniant heb ei ail!
'Nol troedio'n hir gylch einioes dan fy mhwn,
Mynn Profiad imi ddatgan—"Os oes cael
Un dracht o fwynder Gwynfa is yr haul,
Un llymaid byw, yn nhristyd anial dir,
Ceir hyn pan fo pâr ieuanc, ael wrth ael,
Yn gwylaidd sibrwd nerth eu cariad gwir,
Is blodau'r ddraenen wen, wna'n ber yr hwyrwynt ir."

A oes ar ddelw dyn, â chalon dyn,
Adyn, ddyhiryn, mor ddi—wir, mor greulon
All a'i ddichellion hudoledig cas, i'w wŷn,
Fradychu diniweidrwydd Jenny dirion?
Melldith byth ar ei stryw a'i anwir lwon!
Ai nid oes rhinwedd na chydwybod mwy?
Na dim tosturi, bwyntia'r ferch yng nghalon
Ei mham a'i thad—ddynoetha wedyn glwy
Y fun ddifwynwyd, a'u dyryswch enaid hwy?

Ond wele'r swper ar y bwrdd yn gweitied,—
Yr iachus uwd, pen ymborth Alban in,
A llaeth y frithen sydd tuhwnt i'r pared
Yn diddos gnoi ei chil; y rhian fynn
Ddwyn allan heno 'i darn o gosyn prin
O barch i'r llanc; a mawr ei chymell arno,
A mawr ei ganmol yntau; nes, ar hyn,

Nas gall hi dewi oed y cosyn wrtho,—
"Dwy flwydd pan y bo'r ilin yn ei lawn flodau eto."

Eu swper llon ar ben, yn ddwys eu gweddau
Eisteddant oll yn gylch oddeutu'r tân;
Y tad, âg urddas patriarch, dry ddalennau
Y Beibl mawr, hoff lyfr ei dad o'i flaen;
Yn wylaidd dod o'r neilltu'i fonet wlân;
Llwm gwallt ei arlais mwy, a llwyd i gyd;
O'r odlau genid gynt yn Seion lân,
Dewisa ran yn bwyllog, ac, a'i fryd
Yn llawn difrifwch, medd,—"Addolwn Dduw ynghyd."

Eu syml fawl a gathlant dad a phlant,
A'u calon gweiriant uwch y byd a'i ferw;
Gall mai Dundee ymddyrcha'n wyllt ei thant,
Neu'r ddwys gwynfannus Martyrs, gwerth yr enw,
Neu Elgin bortha fflam y nefol ulw,—
Y fwynaf o fawl—odlau Alban dir,
Ger hon, chwibganau'r Eidal ynt ond salw,
Ond goglais clust, nid llesmair calon wir,
Ni chynghaneddant hwy à chlod ein Crewr pur.

Y tad—offeiriad draetha'r Gair dilyth,—
Fel ydoedd Abram gâr ei Arglwydd rhad;
Neu'r archodd Moses ryfel brwd dros byth
Yn erbyn Amalec a'i greulawn had;
Neu fel bu'r bardd brenhinol, am ei frad,
Yn ochain is dyrnodiau dial Duw ;
Neu gwyn deimladwy Job, o'i waew-nâd;
Neu dân seraffaidd Esay dderch, neu ryw
Lân broffwyd arall dantia'r santaidd delyn wiw.


Ef all mai cyfrol Crist yw'r testun mawr,—
Fel collwyd, tros yr euog, waed y gwirion;
Fel nad oedd yma le i roi ben i lawr,
Gan Un fawrygid Ail gan lu'r nefolion;
Ffyniant ei weision gynt, a'r doeth hyfforddion
Yrasant hwy i lawer gwlad a thref;
Neu fel y gwelodd alltud Patmos aflon
Gryf angel yn yr haul, a chlywodd lef
Uwch bryntni Babilon fawr, yn datgan barn y nef

O flaen yr orsedd wen ar ddeulin, yna
Y sant, y gŵr, a'r tad mewn gweddi ddaw;
Gobaith, ar orfoleddus edyn, wela
Ddydd pan gânt oll gydgwrddyd eto draw,
Yn llewyrch gwyneb Duw, heb mwyach fraw,
Nac ochain mwy, na cholli'r chwerw ddeigryn;
Ond yno'n gwmni, hoffach fyth rhagllaw,
I'w Crewr mawr gydganu eu moliant dillyn,
Tra Amser yn ei rod yn troelli mwy heb derfyn.

Wrth ochor hyn, mor salw balchder cred,
A'i chelfydd rwysg i gyd, lle dengys dynion
I'r lliaws cynulleidfa, ar lawn led,
Bob cain ddyhewyd ond dyhewyd calon;
Duw yn ei lid a edy eu rhith ddefodion,
Eu canu coeg, a'u gwisgoedd hyd y llawr;
Ond odid fawr y clyw—a'i fryd mor foddlon!—
Mewn bwthyn iaith yr enaid lawer awr,
A'u henwau gwael yn Llyfr y Bywyd ddod i lawr.

Pawb yna'u llwybr adref a gymerant
A'r bwthiaid bychain ânt i'w gorffwys le;
Y rhiant-bâr eu dirgel warog dalant,
A chynnes iawn eu cais am iddo E',
Sy'n gosteg beunydd nyth y gigfran gre',
Sy'n harddu eirian wisg y lili wen,—

Yn ol fel gwel E'n oreu, ddarbod lle
A lluniaeth iddynt hwy a'u plant di-senn,
Ac yn eu mynwes byth trwy ras deyrnasu'n ben.

Mawredd hen Alban dardda o'r ffynhonnau hyn,
A serch ei phlant, a pharch yr estron ati,—
"Dyn gonest yw gorchestwaith Duw ei hun,"
Ond brenin all â chwythiad greu arglwyddi;
Yn llwybr Rhinwedd dlos diau y gedy
Y Bwthyn draw o'i ol y Palas gwiw,
Rhwysg pwt o arglwydd—beth ond baich i'w boeni?
Baich gel yn aml warthyn dynol ryw,
Ystig a llwyr ei ddysg ymhob uffernawl 'stryw.

O Alban anwyl, bro fy ngenedigaeth.
Fy nhaeraf gais i Dduw sydd erot ti;
Bendithier fyth dy lewion feibion amaeth
Ag iechyd, heddwch, a boddlondeb cu;
A'u syml fuchedd, O gwarchoder hi
Rhag haint andwyol gloddest,—yna aed
Yn deilchion mân bob coron, urdd, a bri;
Ymgyfyd uniawn werin eto'n gâd,
A saif fel mur o dân o gylch eu hynys fâd.

Tydi arllwysaist gynt y gwladgar lif
Trwy eon galon Wallace, pan gyhyd
Y baidd yn deg wrth ymladd gormes hyf,
Neu fario'n deg ei nesaf gyfran ddrud
(Duw agos y gwladgarwr Di bob pryd,—
Ei ffrynd, ei nawdd, ei annog, ei foddhâd).
Rhag Alban byth, O, byth na chilia'th fryd,
Ond cyfod fwy y gwladgar ŵr diwâd,
A'r gwladgar fardd i fod,—addurn a grym eu gwlad.

Nodiadau

[golygu]