Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr)/Y Ferch o'r Frongaled
← Anerchiad Llywelyn | Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr) gan Robert Owen (Bardd y Môr) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Nos Sadwrn y Gweithiwr → |
Y FERCH O'R FRONGALED.
Efelychiad o "Highland Mary" Burns.
CHWI fryniau a llethrau a ffrydiau sy
Oddiamgylch hen gastell Cors Gedol,
Eich coed byth fo'n wyrddion, a'ch blodau 'n gu,
A'ch dyfroedd yn glaer a dylifol;
Yr haf yno 'n gyntaf lledaened ei swyn,
Ac yno yn olaf arhosed,
Can's yno ffarweliais yng nghysgod y llwyn
Ddiweddaf a merch y Frongaled.
Mor las y blagurai y fedwen der,
Mor wych ydoedd blodau 'r drain gwynion,
Tra yno mewn hedd yn eu cysgod per
Y gwasgwn fy mun at fy nghalon;
Ar edyn angylaidd yr oriau dihun
Ehedent heb imi ystyried,
Can's anwyl i'm henaid fel bywyd ei hun
Oedd cwmni y ferch o'r Frongaled.
'Nol mynych adduno cyfarfod drachefn,
A thyner gofleidio ein gilydd,
Rhaid fu dryllio rhwymau cymdeithas mor lefn,—
Byth, byth i gael profi ei heilfydd ;
Na, rhewynt yr angeu a wywodd cyn pryd
Flodeuyn fy serch, er ei hoffed,—
Glas heddyw'r dywarchen, a fferllyd y pridd
Amdoa y ferch o'r Frongaled.
O gwelw'r gwefusau oedd gynt fel y rhos,
Gusenais i ganwaith mor hoffus,
A thywyll yn angeu y drem ddisglaer dlos
Edrychai gynt arnaf mor serchus ;
Ac oeraidd falurio yng ngosteg yr yw
Mae'r galon a'm carai wresoced,
Ond eto yn eigion fy mynwes caiff fyw
Hoff ddelw y ferch o'r Frongaled.
1875.