Gwaith S.R./Ar farwolaeth maban

Oddi ar Wicidestun
Cân y Nefoedd Gwaith S.R.

gan Samuel Roberts (S.R.)

Y Cristion yn hwylio i fôr gwynfyd


AR FARWOLAETH MABAN

Daeth yma i'r byd i weld ein gwae,
Lle mae gorthrymder garw;
Ond trodd ei egwein lygaid draw,
Gan godi'i law a marw.

Er dod am dro i'n daear ni
I brofi'r cwpan chwerw;
Ni fynnai aros is y nen,
Trodd draw ei ben i farw.

Dros ennyd fer fe rodd ei glust
I wrando'n trist riddfannau;
Ond buan, buan, blino wnaeth,
A hedodd ymaith adre'.

Ni chawn ei weled yma mwy
Dan unrhyw glwy'n galaru;
Mae wrth ei fodd ar Seion fryn,
A'i dannau'n dynn yn canu,

Ni welir deigryn ar ei rudd,
Na'i wedd yn brudd wylofus;
Ni chlywir mwy o'i enau ef
Un egwan lef gwynfanus.


Ni chaiff y fam byth, mae'n ddilys,
Waith sychu'i chwys a'i ddagrau,
Na chwaith ei gynnal, pan yn wan,
I gwynfan yn ei breichiau.

Ni rydd un gelyn iddo glwy,
Nis gellir mwy ei faglu;
Ni welir ef yn dewis rhan
Gyda'r annuwiol deulu.

Ni chaiff y tad na'r fam byth mwy
Boen trwy ei weld yn pechu:
Nid ofnant iddo yn ei oes
Ddwyn croes ar achos Iesu.

Fe darddodd ffynnon ar y bryn
I'w gannu'n wyn, a chymwys
I lanw lle yn mhlith y llu
Sy'n canu ym mharadwys.

Diangodd draw i wlad yr hedd
O gyrraedd pob rhyw ddrygfyd,
Ac uno wnaeth â'r nefol lu
I ganu fry mewn gwynfyd.

Mewn teulu duwiol yn y byd,
Tra hyfryd y gyfeillach;
Ond fry ymhlith y nefol hil
Y bydd yn fil melusach.

Heb unrhyw boen o dan y fron,
Mae 'nawr yn llon a dedwydd:
A'r pur orfoledd yno sy
A bery yn dragywydd.

Er rhoi ei gorff yng ngwaelod bedd
I orwedd a malurio,
Daw bore hyfryd yn y man
Y cwyd i'r lan oddiyno.


Cawn gydgyfarfod fry mewn hedd,
Tudraw i'r bedd yn dawel;
Ac uno i ganu yn ddi-lyth,
Heb achos byth ymadael.