Gwaith S.R./Y Cristion yn hwylio i fôr gwynfyd
Gwedd
← Ar farwolaeth maban | Gwaith S.R. gan Samuel Roberts (S.R.) |
Cwyn a Chysur Henaint → |
Y CRISTION YN HWYLIO I FÔR GWYNFYD.
Fel morwr cyfarwydd wrth ddedwydd fordwyaw,
Yn troi yn dra medrus ei lyw â'i ddeheulaw,
Gan ganu wrth ledu ei hwyliau claerwynion
I farchog y cefnllif o flaen yr awelon,—
Mae'r Cristion yn gadael anialdir marwoldeb,
Gan hwylio yn dawel i fôr bythol burdeb.
Pan ddel y gorchymyn mae'n lledu ei hwyliau,
Heb ofni'r Iorddonen, nac ymchwydd ei thonnau;
Gan wenu heb ddychryn, wrth gychwyn, mae'n canu,—
"O'm golwg yn gyflym mae'r byd yn diflannu,
Diangaf yn fuan o gyrraedd gofidiau,
Tawelu mae'r gwyntoedd, llonyddu mae'r tonnau,
Mae'r heulwen yn gwenu, a'r wybren yn siriol,
Caf nofio mewn moroedd o wynfyd tragwyddol."